Porth Ymchwil Aberystwyth
Mae gan Aberystwyth hanes hir ac anrhydeddus o wneud gwaith ymchwil blaengar o arwyddocâd rhyngwladol. O gnydau sy’n gallu gwrthsefyll effeithiau newid hinsawdd a lleihau lefelau carbon i wella ansawdd dŵr, llywio polisi iaith a chyfrannu at deithiau i’r gofod, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth i fywydau bob dydd.
Mae Porth Ymchwil Aberystwyth yn gwneud y gorau o ymchwil staff ac ôl-raddedigion Prifysgol Aberystwyth sydd ar gael yn agored ar-lein, yn rhad ac am ddim.
Yn y porth cynhwysir allbynnau cyhoeddedig, traethodau ôl-raddedig, manylion y prosiect, yn ogystal â chofnodion o weithgareddau parch eraill. Mae'r porth hefyd yn cynnwys Proffiliau Personol o'r holl staff a myfyrwyr ymchwil cyfredol. Gall borwyr y Porth weld yr holl gynnwys ymchwil perthnasol sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw ar un dudalen. Gallent hefyd bori fesul adran.
Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
Cliciwch ar y dotiau ar donyts i agor y manylion.
- 24 canlyniad