Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Almanaciau’r ddeunawfed ganrif a hinsawdd yr Ymoleuedigaeth

Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniadCyflwyniad llafar

Disgrifiad

Mae astudio hin a hinsawdd Prydain o safbwynt gwyddonol yn nodwedd ar yr Ymoleuedigaeth, sef y broses gymhleth o foderneiddio a newid diwylliannol a gyflawnwyd drwy’r sffêr cyhoeddus a chyfnewid gwybodaeth yn rhydd. Almanaciau yn gyffredinol: Mae ymchwil Geraint H. Jenkins ar ddiwydiant print Cymru’r cyfnod modern cynnar a ffigurau fel Thomas Jones yr Almanciwr (?1648-1713) yn dangos bod yr almanaciau Cymraeg eu hiaith wedi tyfu o egin sffêr cyhoeddus Cymru ac wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o drawsffurfio a democrateiddio diwylliant llenyddol y wlad. Almanaciau a’r hinsawdd: Roedd yr almanaciau hefyd yn gyfrifol am gyfoethogi disgwrs cyhoeddus drwy gyfrwng cyfuniad hynod ddifyr o seryddiaeth (sy’n cwmpasu’r ddwy ystyr Saesneg astrology ac astronomy), traddodiadau gwerin am dywydd, a thrafodaethau gwyddonol. Yn hyn o beth, felly, mae’r almanaciau yn ffynhonnell allweddol yn y naratif ynghylch hanes diwylliannol hin a hinsawdd Cymru, yn ogystal â’r sffêr cyhoeddus Cymraeg ei iaith. Bydd y papur hwn yn archwilio twf yr almanaciau a’u hymwneud â’r tywydd a hinsawdd – y shift oddi wrth feteoroleg Glasurol, rhagolygon astrofeteorolegol hirdymor, a thraethodau gwyddonol – mewn perthynas arbennig â rôl yr almanciau yn sffêr cyhoeddus a disgwrs cyhoeddus Ymoleuedig yng Nghymru. Bydd y papur yn dadlau o blaid pwysigrwydd y genre hwn sy’n dyst i hinsawdd deallusol a meteorolegol yr Ymoleuedigaeth yng Nghymru’r cyfnod modern cynnar.
Cyfnod23 Ion 2026
Teitl y digwyddiadChwilen yn y Glust: plethug wyddoniaeth a llenyddiaeth
Math o ddigwyddiadCynhadledd
LleoliadAberystwyth, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd IwerddonDangos ar fap
Graddau amlygrwyddCenedlaethol

Allweddeiriau

  • gwyddoniaeth
  • science
  • llenyddiaeth
  • literature
  • almanac
  • almanack
  • Ymoleuedigaeth
  • Enlightenment
  • cyfnod modern cynnar
  • early modern period
  • Oes yr Ia Fechan
  • Little Ice Age
  • sffer cyhoeddus
  • public sphere
  • tywydd hanesyddol
  • historical weather
  • hinsawdd hanesyddol
  • historical climate
  • meteoroleg Glasurol
  • Classical meteorology
  • meteoroleg fodern
  • modern meteorology
  • astrofeteoroleg
  • astrometeorology