'Awdurdod Mam, ac eraill: lleisiau benywaidd mewn barddoniaeth Gymraeg 1400-1800' (Cynhadledd Flynyddol Archif Menywod Cymru / Women's archive Wales Annual Conference 2017)

Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadCynhadledd

Disgrifiad

Bydd y papur hwn yn cyflwyno prosiect Leverhulme, ‘Women’s Poetry in Ireland, Scotland and Wales 1400–1800’, prosiect cymharol sy'n archwilio ffiniau ieithyddol, cenedlaethol a diwylliannol y cyfnod (http://womenspoetry.aber.ac.uk/en/), gan roi sylw manwl i'r deunydd Cymraeg a ddarganfyddwyd wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Mae'r corff o gerddi Cymraeg gan fenywod sydd wedi goroesi o'r cyfnod 1400–1800 yn cynnwys tua dau gant a hanner o gerddi, ac mae nifer ohonynt yn lleisio profiadau penodol fenywaidd (e.e. priodas, y profiad o fod yn fam, y profiad o fod yn weddw a chyfeillgawch). Maent hefyd yn rhoi perspectif benywaidd i faterion megis confensiynau barddol a'r Diwygiad Protestannaidd. Hoffwn drafod lleisiau dilys y gwragedd, mamau, merched a chwiorydd, yn ogystal â rhoi sylw i'r modd y byddent yn defnyddio eu lleisiau benywaidd i awdurdodi eu cerddi.
Cyfnod07 Hyd 2017
Math o ddigwyddiadCynhadledd
Rhif y gynhadledd20
LleoliadAberystwyth, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd IwerddonDangos ar fap

Allweddeiriau

  • barddoniaeth
  • ffeminyddiaeth
  • rhywedd
  • canon llenyddol
  • beirniadaeth lenyddol