Darlith Goffa Islwyn, drwy wahoddiad Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Darlith ar un o brydyddesau Morgannwg a Mynwy yn y ddeunawfed ganrif: ei chefndir a'i cherddi, a sut mae ei hanes bregus hi fel prydyddes yn ddrych i batrymau a phrosesau cyffredinol ar oedd ar waith yng nghanu menywod Cymru'r cyfnod modern cynnar. Yn benodol, trafodir sut y mae Florence Jones yn ddrych i ansefydlogrwydd y canon benywaidd.