Iaith, llên, llyfrgell: datblygu rhaglen llythrennedd gwybodaeth i fyfyrwyr y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth
Lloyd Roderick (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Disgrifiad
Datblygwyd modiwl Sgiliau Astudio Iaith a Llên gan Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn cynorthwyo myfyrwyr blwyddyn 1 i gynefino â bywyd academaidd ac i astudio iaith a llên yn benodol. Bydd y cyflwyniad hwn yn ffocysu ar elfennau llythrennedd gwybodaeth y modiwl ac yn disgrifio cyfraniad y Llyfrgellydd Pwnc i’r dysgu cyn adfyfyrio ar natur hyfforddiant llythrennedd gwybodaeth mewn cyd-destun Cymraeg. Bydd y cyflwyniad yn cloi gydag ystyriaeth o lwyddiannau a gwendidau’r gweithgareddau llyfrgell yn y modiwl ac yn gwahodd sylwadau ac argymhellion oddi wrth gydweithwyr yn y maes.
Cyfnod
16 Mai 2019
Delir yn
Chartered Institute of Library and Information Professionals, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon