Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cynhadledd
Disgrifiad
Trwy Brism Iaith / Through the Language Prism Cynhadledd ryngwladol ar ddwy- ac amlieithrwydd a drefnwyd ar y cyd â'r Gymdeithas Ddysgedig, Claire Gorrara, Prifysgol Caerdydd ac Enlli Thomas, Prifysgol Bangor.
Beth yw iaith a beth yw dwyieithrwydd ac amlieithrwydd? Sut ydyn ni’n cynhyrchu iaith a sut mae’r meddwl dwyieithog ac amlieithog yn prosesu iaith? I ba raddau y mae Cymru’n gwneud y gorau o botensial deallusol, cymdeithasol a chreadigol ei dwyieithrwydd? Sut y gellir datgloi’r potensial hwn yn wyneb y bygythiad o ddifodiant ieithoedd er mwyn gwireddu amcanion y llywodraeth o hybu diwylliant bywiog ac o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?