Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Grym a Phrotest yng Nghymru 1714 i 1785

Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad i'r Cyfryngau

Disgrifiad

Ffilm 15 munud ar gyfer cyfres yr Historical Association ar Grym a Rhyddid ym Mhrydain ac Iwerddon 1714-2010.

Trafodir pwy oedd mewn grym yng Nghymru ym 1714, y berthynas newidiol rhwng Cymru a'r Deyrnas Unedig ehangach a'r datblygiadau allweddol a ddigwyddodd yng Nghymru rhwng 1714-1785. Ymhlith y themâu y mae ehangu cyflym print a llythrennedd yng Nghymru a'r rôl ganolog a chwaraeodd wrth feithrin y Gymraeg fel iaith, a chreu'r sail ar gyfer yr adfywiad diwylliannol Cymreig a welwn ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg ganrif.  Ystyrir hefyd y chwyldro diwydiannol cynnar yng Nghymru, y protestiadau a ddaeth gydag ef a chyfranogiad Cymru yn yr Ymerodraeth Brydeinig cyn archwilio pa mor wahanol oedd Cymru 1785 i Gymru 1714.

Cyfnod14 Ion 2026

Cyfraniadau i’r wasg

1

Cyfraniadau i’r wasg

  • TeitlGrym a Phrotest yng Nghymru – 1714 i 1785
    Graddau amlygrwyddCenedlaethol
    Enw cyfrwng / allfaHistorical Association
    Math y cyfrwngGwe
    Hyd / Maint15 munud
    Gwlad/TiriogaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
    Dyddiad cyhoeddi14 Ion 2026
    DisgrifiadFfilm 15 munud ar gyfer cyfres yr Historical Association ar Grym a Rhyddid ym Mhrydain ac Iwerddon 1714-2010, sy'n cynnwys nifer o haneswyr yn rhoi arweiniad i'w meysydd arbenigol er mwyn creu adnodd i ddisgyblion a myfyrwyr.
    Cynhyrchydd / AwdurCynhyrchwyd gan Historical Association. Sgriptiwyd gan Eryn White.
    URLhttps://www.history.org.uk/primary/resource/11349/ffilm-grym-a-phrotest-yng-nghymru-1714-i-1785
    UnigolionEryn White