Disgrifiad
Sail y prosiect hwn yw llafur cariad Dr P C Bartrum, gŵr heb unrhyw gysylltiad â Chymru a aned yn Hampstead, Llundain, ac a fu farw yn 2008 yn gan mlwydd oed. Meteorolegydd ydoedd wrth ei alwedigaeth hyd ei ymddeoliad yn 1955, ond serch hynny, ef oedd, yng ngeiriau Dr Michael Siddons, 'pennaf ysgolhaig achyddiaeth Gymreig ganoloesol' (ysgrif goffa yn Studia Celtica 43 (2009) 221-2). Er 1929 bu’n casglu gwybodaeth am achau’r Cymry o weithiau cynnar megis Brut y Tywysogion ac o lawysgrifau fel Harley 3859 (a gedwir yn y Llyfrgell Brydeinig) sy’n dyddio o tua 1100 a llawysgrifau eraill yn dyddio gan mwyaf o’r 15fed ganrif ymlaen, rhai a luniwyd gan yr arwyddfeirdd, sef y beirdd a oedd yn arbenigwyr ar hanes achyddol yr uchelwyr.
Yn 1974 cyhoeddodd Dr Bartrum gyfres o 8 gyfrol o dan y teitl Welsh Genealogies AD 330-1400 (WG1) (Gwasg Prifysgol Cymru), ac yn 1983 cyhoeddodd 18 cyfrol fel dilyniant i’r gyfres gyntaf, Welsh Genealogies AD 1400-1500 (WG2) (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).
Ers eu cyhoeddi bu Dr Bartrum yn ychwanegu atynt yn helaeth ac yn eu cywiro. Trosglwyddodd ei set bersonol ef ei hun o’r cyfrolau i ofal yr Adran Gymraeg lle bu tîm o ymchwilwyr yn sganio’r deunydd yn electronaidd er mwyn ei gyhoeddi ar y we ac ar DVD.
Archive Cyff-Cyfl contains the introduction with all abbreviations etc to Welsh Genealogies 300-1400 (WG1) and Welsh Genealogies 1400-1500 (WG2).
Archives CyffA to CyffY are colour scans of the entire contents of WG1; and archives WG1Ind1 to WG1Ind11 contain the indices to those volumes.
N.B. Plates 32-40 of CyffRh were left blank by Dr. Bartrum.
Archives Tab1 to Tab9 are colour scans of the entire contents of WG2; and archives WG2Ind1 to WG2Ind23 contain the indices to those volumes.

Dyddiad y'i gwnaethpwyd ar gael | 25 Meh 2020 |
---|---|
Cyhoeddwr | Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University |
Sylw tymhorol | 0300 - 1500 |
Sylw daearyddol | Cymru |