Uwchgyfrifiadura Cymru

Offer/cyfleuster: Cyfleuster

    Manylion Offer

    Testun

    Mae Uwchgyfrifiadura Cymru yn rhaglen fuddsoddi £16m, a rannol ariennir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, i ddarparu mynediad at gyfleusterau cyfrifiadura pwerus i dimoedd ymchwil i ymgymryd â phrosiectau gwyddoniaeth ac arloesi uchel eu proffil ym mhrifysgolion y consortiwm – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, a Phrifysgol Aberystwyth.

    Mae’r rhaglen yn cynnwys buddsoddiad mewn dwy ganolfan uwchgyfrifiadura wedi’u huwchraddio a grŵp newydd o Beirianwyr Meddalwedd

    Ymchwil ledled Cymru i ddatblygu algorithmau a meddalwedd wedi’i theilwra sy’n manteisio ar bŵer y cyfleusterau. Cefnogir y cyfleusterau gan dîm technegol profiadol ac arbenigol.

    Mae’r buddsoddiad yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi cyflwyno rhagor o ymchwil a ariennir yn allanol. Bydd hyn yn digwydd trwy gynyddu partneriaethau gwyddonol, cefnogaeth i swyddi ymchwil medrus, a chydweithio pellach gyda phartneriaid diwydiannol ac eraill. Mae hyn yn galluogi newid slweddol i ymchwil wyddonol a alluogir gan uwchgyfrifiadura yng Nghymru.

    Ôl bys

    Archwilio’r meysydd ymchwil lle mae’r offer hwn wedi cael ei ddefnyddio. Mae’r labelau hyn yn cael eu cynhyrchu’n seiliedig ar yr allbynnau cysylltiedig. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.