Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Proffil y sefydliad

Proffil sefydliad

Mae ymchwilwyr IBERS hefyd yn gweithio ar amrywiaeth o gnydau diwydiannol ar gyfer tanwydd, cemegau, defnyddiau, atchwanegiadau dietegol a fferyllol.

  • ae miscanthus yn gnwd biomas i ddal allyriadau carbon o’r atmosffer a darparu dewis arall yn lle tanwyddau, cemegau a defnyddiau ffosil. Mae saith amrywogaeth newydd wedi’u cofrestru ar gyfer diogelu eiddo deallusol o dan y system Ewropeaidd i fridwyr planhigion a wedi eu trwyddedu i Terravesta ar gyfer defnydd masnachol.
  • Defnyddir cywarch i wneud ystod eang o gynhyrchion o ddillad i ddefnyddiau adeiladu, bwyd a meddyginiaethau. Mae ymchwilwyr IBERS yn ymchwilio i’r potensial ar gyfer gwella ansawdd ffeibr, olew a phrotein yr hadau, gan roi hwb i’r manteision iechyd trwy wella priodweddau gwrthocsidiol a gwrthlidiol.
  • Mae macroalgâu yn gnydau morol a ddefnyddir mewn nifer o sectorau gan gynnwys bwyd, bwyd fferm a bwyd anifeiliaid anwes, gwrtaith, cynhyrchion maeth-fferyllol, tecstilau, argraffu a fferylliaeth. Mae ymchwilwyr IBERS yn gweithio ar nodweddion gwymon fel bio-wrtaith, yn nodi dibenion ar gyfer gordyfiant macroalgâu, ac yn gweithio gyda phartneriaid masnachol ar dreialon prosesu ar raddfa peilot ac yn datblygu ffilmiau plastig sy’n seiliedig ar facroalgâu er mwyn disodli pecynwaith bwyd sy’n deillio o ffosilau.

Cnydau diwydiannol ar gyfer ynni a deunyddiau cynaliadwy

Mae ein rhaglen cnydau diwydiannol yn datblygu planhigion ar gyfer gwres, pŵer a deunyddiau crai. Y nod yw cynhyrchu deunyddiau a chynnyrch newydd sy'n lleihau allyriadau carbon trwy ddisodli dewisiadau eraill carbon-ddwys.

Mae adroddiadau diweddar yn dangos, er mwyn i’r DU gyrraedd targedau Sero Net, y bydd angen tyfu cnydau biomas lluosflwydd megis Miscanthus, ar draws cannoedd o filoedd o hectarau. Mae hyn oherwydd bod cnydau o'r fath yn effeithlon iawn o ran ynni ac yn gallu cael gwared ar CO2 yn enwedig os cyfunir hyn â thechnolegau dal a storio carbon pan gânt eu defnyddio i gynhyrchu ynni.

Mae planhigion yn tynnu carbon deuocsid o’r atmosffer wrth iddynt dyfu. Mae cynaeafu a llosgi biomas planhigion ar gyfer gwres neu bŵer yn rhyddhau’r un carbon ‘cyfoes’ yn ôl i’r atmosffer (Ffig 1). Mae hyn yn wahanol i’r carbon hynafol sy’n cael ei ryddhau wrth losgi tanwydd ffosil sy’n cynyddu CO2 atmosfferig yn gyffredinol. Yn yr un modd, gall y carbon sefydlogi mewn cynnyrch, ac mae gan rai ohonynt hyd oes hir iawn. Trwy ddefnyddio cnydau lluosflwydd a deunyddiau planhigion wedi heneiddio gallwn wella cynaliadwyedd y cnwd yn sylweddol trwy leihau mewnbynnau agronomig a dychwelyd maetholion i'r maes i'w defnyddio mewn blynyddoedd twf dilynol.

Mae ein ffocws ar ddatblygu planhigion sy’n cynhyrchu’r cydbwysedd gorau o gnwd uchel o fewnbwn isel wrth gyflwyno’r ansawdd cywir o fiomas, Mae rhaglen ymchwil fawr gennym ar y glaswellt C4 uchel ei gnwd, Miscanthus. Rydym hefyd yn gweithio ar rygwellt lluosflwydd cynhenid, pefrwellt, a choedlannau helyg cylchdro byr. Mae potensial gan yr holl blanhigion lluosflwydd hyn i gyfuno cnwd uchel gydag ychydig neu ddim mewnbwn gwrtaith/plaladdwr. Ymysg y buddion a geir o ecosystem planhigion lluosflwydd mae dal a storio carbon, atal erydiad pridd a thrwytholchi maetholion, a gwella cynefinoedd ar gyfer bioamrywiaeth trwy orchudd tir mwy parhaol a llai o ddefnydd o blaladdwyr.

Rydym hefyd yn gweithio ar blanhigion unflwydd dethol, megis cywarch, ar gyfer ffibr a chemegau. Mae prosiectau diweddar hefyd wedi cynnwys adnoddau biomas morol ac algâu dŵr croyw (Lemna), wedi’u prosesu ar gyfer cynhyrchion gwerth uchel ac adfer dŵr.

Amcanion

Ein nod yw cynyddu cynhyrchiant cnydau biomas yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt drwy’r canlynol:

  1. Deall bioleg y nodweddion sy’n cyfrannu at y cnwd biomas gorau
  2. Cynhyrchu amrywiaeth o gnydau lluosflwydd gyda nodweddion gwell megis maint y cnwd
  3. Optimeiddio cyfansoddiad biomas ar gyfer rhyddhau ynni a biogynnyrch
  4. Datblygu ffyrdd effeithlon o sefydlu a thyfu cnydau ar gyfer datblygu cyflym
  5. Meintoli manylion amgylcheddol cnydau biomas
  6. Cyfrannu at ddatblygu polisi ar gnydau biomas ar gyfer ynni bio-adnewyddadwy

Uchafbwyntiau a Galluoedd

Ar gyfer Miscanthus

  • 1500+ o dderbyniadau Miscanthus o Asia wedi’u curadu ym manc bio IBERS ar gyfer cadwraeth a bridio.
  • Nodweddion ffenotypig in situ ac ex-situ o dderbyniadau dethol sydd ar dreial mewn sawl lleoliad, a’r rhain wedi’u defnyddio i nodi llinellau addawol i’w defnyddio yn y DU ac Ewrop.
  • Seilwaith a gwybodaeth ar gyfer trawsrywogaethu eang i gynhyrchu enillion o heterosis.
  • Cynhyrchu hadau a gwreiddgyff hybridau masnachol newydd gyda phartneriaid masnachol.
  • Agronomïau sy’n seiliedig ar blygiau planhigion ar gyfer sefydlu hybridau  sy’n seiliedig ar hadau.
  • Cyflwynwyd hybridau uwch i ddiogelu amrywiaeth drwy gael trwyddedau masnachol.
  • Treialon am dymor hwy i asesu’r cnwd a’r cyd-fanteision i’r amgylchedd.
  • Modelau mapio cyfleoedd gofodol ac amser ar gyfer llunwyr polisi i arwain y defnydd priodol o’r adnoddau tir.

Ar gyfer cnydau eraill

  • Helyg: treialon ar gynnyrch hirdymor yn parhau.
  • Morol: casgliadau o ddeunyddiau wedi’u cynaeafu’n wyllt o Gymru, yr Alban, de-orllewin Lloegr a’r Philipinau. Cydweithredu ar ddefnyddio gwymon ar raddfa fawr yn y DU ac Ewrop.
  • Gwerthuso’r amrywiaeth o gywarch ar gyfer Cymru gyda deunydd wedi’i ddewis ar gyfer protein, cyfansoddiad olew a ffibr.
  • Pefrwellt: curadu >200 o rai a gasglwyd ledled Ewrop ac wedi’u nodweddu yn ôl amser blodeuo a chyfansoddiad cemegol.

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Cnydau Diwydiannol ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith aelodau’r sefydliad hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu