Proffil personol
Diddordebau ymchwil
Ym maes Dadansoddi Cyfres Amser mae Alan wedi goruchwylio sawl prosiect ymchwil ar gyffredinoli'r teulu ymatchwelaidd o fodelau ac effeithiau ansacrwydd am baramedrau ar effeithlonrwydd rhagweld. Mae ganddo ddiddordeb hefyd yn y defnydd o dechnoleg wrth addysgu Ystadegau, yn enwedig y defnydd o daenlenni ac efelychiadau.
Proffil
Magwyd Alan Jones wrth droed y Mynydd Du ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Cwm Aman ac yna Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Graddiodd ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Mathemateg Bur cyn mynd yn ei flaen i swydd Cynorthwyydd Ymchwil yn yr Adran Ystadegau fel yr oedd ar y pryd. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn Ystadegau ym 1972. Fe'i secondiwyd i swyddi Darlithio ym Mhrifysgol Malawi dair gwaith, lle bu'n addysgu Methodoleg Ystadegol i fyfyrwyr Amaeth. Mae wedi addysgu amrywiaeth o gyrsiau mewn Ystadegau ac Ymchwil Gweithrediadol i arbenigwyr a phobl nad ydynt yn arbenigwyr yn Aberystwyth ers dros 30 mlynedd. Fe'i penodwyd yn Uwch Diwtor mewn Mathemateg ym 1997. Mae wedi gwasanaethu fel Prif Arholwr i'r amrywiol fyrddau arholi, gan gynnwys CBAC, JMB, NEAB a Bwrdd Rhydychen a Chaergrawnt. Gwasanaethodd am sawl blwyddyn ar Bwyllgor Addysg y Gymdeithas Ystadegau Frenhinol a bu'n ymwneud â llawer o weithgareddau yng Nghanolfan Addysg Ystadegol y Gymdeithas honno. Ar hyn o bryd ef yw gwerthuswr rhanbarthol Cymru y Rhwydwaith Cymorth Dysgu ac Addysgu Mathemateg.
Ymhlith ei ddiddordebau allanol mae rygbi a'r modd y caiff ei ddarparu. Bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus Clwb Rygbi Aberystwyth ers naw mlynedd, a chyn hynny bu'n gwasanaethu fel Trysorydd Cynorthwyol a Thrysorydd. Ar benwythnosau mae i'w weld yn cefnogi'r tîm glas golau a thywyll, lle bynnag y byddant yn chwarae!
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg