20212024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Cwblhaodd Amy Saunders radd BSc. Econ, a gradd MSc. Econ ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Astudiodd am ei Doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r rhan y mae cyrff cydraddoldeb yn ei chwarae mewn partneriaethau rhwng y trydydd sector a’r Llywodraeth yng Nghymru, o dan y teitl ‘Institutionalising equalities?’ Penodwyd Amy yn Gydymaith Ymchwil yn DGES yn 2021. Ymunodd â Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) fel ymchwilydd PhD ym Mhrifysgol Caerdydd, a bellach mae’n Gydymaith Ymchwil sefydliad WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyn gwneud PhD, treuliodd Amy dros 16 mlynedd yn gweithio ar brosiectau yn dod â’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus ynghyd. Roedd yn gyfarwyddwr ar fenter gydweithredol i weithwyr yng Nghymru oedd yn hyrwyddo cydraddoldeb ac annog cyfranogiad dinesig. Mae hi wedi darparu prosiectau ar gyfer Llywodraeth Cymru, awdurdodau cyhoeddus a lleol, a sefydliadau’r trydydd sector ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, ac wedi gweithio fel Swyddog Datblygu Cymunedol mewn Tŷ Cymunedol yn Abertawe. Cyn hyn, cydlynodd Rwydwaith Gweithredu ar Dlodi Abertawe, a gweithiodd fel Swyddog Gwrthdlodi Abertawe.

Diddordebau ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys y gymdeithas sifil, cydraddoldebau a chysylltiadau rhwng y gymdeithas sifil a’r wladwriaeth.

Mae fy mhrosiectau ymchwil presennol yn rhan o waith Canolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD, sy’n cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Mae’r ymchwil yn perthyn i’r rhaglen ‘Newid Safbwyntiau ar Haenau Dinesig ac Atgyweirio Sifil’.

1) Rwy’n ymwneud â phegynnu gwleidyddol, a’r ffordd mae’n ei amlygu ei hun mewn sefydliadau cymdeithas sifil. Yn fwy penodol, rwy’n archwilio sut mae rhannu syniadau, dadleuon a thrafodaethau o fewn rhwydweithiau’r gymdeithas sifil leol wedi cyfrannu at gynnydd mewn poblyddiaeth a phegynnu gwleidyddol ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau, a’r rhan y gall gymdeithas sifil ei chwarae wrth ymdrin â phegynnu cymdeithasol a gwleidyddol. Yr Athro Michael Woods a’r Dr Rhys Dafydd sy’n arwain y rhaglen waith hon, ac rwyf innau’n gweithio’n agos gyda fy nghydweithiwr, Fossie Kingsbury. Rydym yn cydweithio â Phrifysgol Vermont yn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Roehampton ym Mhrydain.

2) Rwy hefyd yn archwilio y rhan y mae elitau a systemau nawdd yn ei chwarae yn y gymdeithas sifil yng nghyd-destun cymdeithas sifil Cymru. Rwy’n craffu ar y systemau nawdd o fewn y gymdeithas sifil a’r cysylltiadau rhwng y gymdeithas sifil, haenu dinesig a sut mae elitau’n ffurfio. Mae’r rhaglen waith hon yn cael ei harwain gan y Dr Jesse Heley a’r Athro Sally Power (Prifysgol Caerdydd), ac rwy’n gwthio’n agos gyda fy nghydweithiwr, Fossie Kingsbury. Rydym yn gweithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd.

3) Byddaf yn gwneud gwaith ymchwil i’r repertoires newydd ar gyfer mwstro cymdeithasol sydd wedi eu mabwysiadu gan y gymdeithas sifil ym mudiad yr hinsawdd. Mae gennyf ddiddordeb penodol yn natur repertoires trawswladol a weithredir drwy dechnoleg, a sut maent yn cyfrannu at ddynameg gyfnewidiol haenu dinesig yn yr oes ansicr sydd ohoni. Yr Athro Michael Woods a’r Dr Sophie Wynne-Jones (Prifysgol Bangor) sy’n arwain y rhaglen waith hon a byddaf yn gweithio’n agos gyda fy nghydweithiwr, Fossie Kingsbury. Byddwn yn cydweithio hefyd â Phrifysgol Technoleg Queensland yn Awstralia.

Gwybodaeth ychwanegol

Traethawd Estynedig: ”Institutionalising Equalities? Exploring the engagement of equalities organisations in the Welsh Third Sector-Government Partnership”

Roedd fy ymchwil ddoethurol yn edrych ar y berthynas rhwng y trydydd sector a Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y bartneriaeth ffurfiol rhwng y trydydd sector a’r wladwriaeth, fel y’i gosodir mewn deddfwriaeth. Roedd yn canolbwyntio ar y dull hwnnw o lywodraethu, o safbwynt sefydliadau cydraddoldeb. Defnyddiais syniad y sefydliadaeth newydd er mwyn edrych ar y ffordd mae natur y sefydliad hwn wedi llunio’r trydydd sector cydraddoldebau, a sut mae’r rhan honno o’r trydydd sector wedi effeithio ar y sefydliad. Trwy hynny, roeddwn i’n adeiladu ar sefydliadaeth ffeministaidd a’i hestyn i safbwynt ehangach cydraddolebau.

Archwiliais sut roedd cynrychiolaeth ddisgrifiadol a chynrychiolaeth wirioneddol yn cael eu cyflawni drwy’r trydydd sector cydraddoldebau. Defnyddiais ddamcaniaeth democratiaeth er mwyn ystyried sut y rhoddwyd llais i’r trydydd sector wrth lunio polisïau. Yn ychwanegol, defnyddiais ddamcaniaeth mudiadau cymdeithasol er mwyn archwilio’r ffyrdd y gwnaed hawliadau, a’r repertoires gweithredu a ddefnyddir i ddylanwadu ar bolisi, gan graffu felly ar sut y pennir safle’r trydydd sector ar y continwwm rhwng y rhai sydd y ‘tu mewn’ a’r rhai sydd y ‘tu allan’. Ystyriais sut roedd y sefydliadau cydraddolebau, a’u gallu i fynd dros ffiniau yn ymarferol, yn cael eu llunio gan eu partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Ar ben hynny, edrychais ar y berthynas rhwng effeithiolrwydd sefydliadol, galluedd, a newidiadau i’r dulliau llywodraethu hyn.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Amy Sanders ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu