Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Angharad James

LLB (Aberystwyth University), LLM (Cardiff University), PGCTHE, Fellow of the Higher Education Academy, PhD (Aberystwyth University), Dr

20232026

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Cyfrifoldebau

Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu

Cydlynydd darpariaeth Cymraeg y Gyfraith a Throseddeg

 

 

Diddordebau ymchwil

Thema ganolog gwaith ymchwil Angharad yw cyfraith fasnachol (gwerthu nwyddau ac ansolfeddau).  Cwblhaodd ei doethuriaeth ar gymalau cadw teitl (retention of title clauses). Nod y traethawd oedd ymchwiliad penodol ar reolau drosglwyddo perchnogaeth o dan Ddeddf Gwerthu Nwyddau 1979. 

Mae ei gwaith ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar gyfraith ansolfedd gorfforaethol a chwmnïau mewn trallod ariannol. Mae ei hymchwil yn archwilio materion cyfredol gyda chyfraith ac ymarfer ansolfedd corfforaethol. Yn benodol, mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar effaith Deddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020 a sut mae'r mesurau parhaol (gyda phwyslais ar y moratoriwm annibynnol newydd) wedi cael eu defnyddio, eu deall a'u derbyn gan wahanol randdeiliaid, yn fwyaf nodedig credydwyr â sicrwydd a hebsicrwydd. Mae ei hymchwil wedi arwain at gyhoeddiadau o fewn cyfnodolion arwyddocaol megis y ‘Journal of Corporate Law Studies,' 'European Business Law Review' a'r 'Nottingham Insolvency and Business Law eJournal.'   

Proffil

Mae Angharad yn gyn-fyfyrwraig israddedig yn y Gyfraith o Brifysgol Aberystwyth. Yn ogystal, graddiodd Angharad o Brifysgol Caerdydd â gradd meistr, cyn dychwelyd yn ôl i Brifysgol Aberystwyth i barhau â’i astudiaethau. Cwblhaodd ei doethuriaeth ar faes cyfraith fasnachol. Mae Angharad yn ddarlithydd yn y Gyfraith yn adran Y Gyfraith a Throseddeg yn Aberystwyth ac yn dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Cafodd ei phenodi fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Adran ym mis Ionawr 2024. 

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  1. NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
    NDC 8 Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  2. NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn
    NDC 16 Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Angharad James ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu