Angharad Jones

BSc Applied Community and Health Studies; Dip HE Nursing; PGCE (incorporating the Diploma in Teaching in the Lifelong Learning Sector); Registered Nurse - Child; Specialist Community Public Health Nurse; Registered Nurse Teacher, SFHEA

20192019

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Mae Angharad yn aelod sefydledig o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ac roedd yn aelod o Bwrdd Prosiect y Radd Nyrsio a ddiogelodd y tendr i ddarparu addysg nyrsio cyn-gofrestredig (meysydd oedolion ac iechyd meddwl) ar gyfer canolbarth Cymru.  Roedd hi hefyd yn rhan o dîm Addysg Gofal Iechyd a sicrhaodd achrediad penagored y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i Brifysgol Aberystwyth i fod yn Sefydliad Addysgol Cymeradwyol.

Mae Angharad wedi gweithio mewn meysydd clinigol (AU & GIC), addysg nyrsio ac ymchwil am y 25 mlynedd diwethaf.  Yn ogystal â’i chymhwyster NG Nyrsio Plant (Prifysgol Swydd Stafford) a chefndir clinigol o nyrsio pediatreg, mae hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol -Nyrsio Ysgol (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrian Cymru – Prifysgol Glyndwr nawr) ac yn Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigaeth wedi iddi gwblhau cwrs GPMA (gan ymgorffori’r Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes) gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd, lle gwobrwywyd a Chyrhaeddiad Arbennig. 

Mae ganddi brofiad a diddordeb penodol mewn modelau nyrsio cymunedol, egwyddorion Un Iechyd, ymchwil gofal iechyd, iechyd gwledig - yn enwedig y gweithlu iechyd gwledig, modelau o ddarparu gwasanaethau/addysgu iechyd gwledig ac iechyd a llesiant ym mhlith cymunedau amaethyddol.  Mae yn cwblhau ei thesis PhD ar hyn o bryd trwy Brifysgol Aberystwyth gan obeithio ei gyflwyno yn 2022.

Diddordebau ymchwil

Mae Angharad yn angerddol am ddarpariaeth o Nyrsio ansawdd uchel mewn ardaloedd gwledig ac felly, mi benderfynodd ddilyn cwrs PhD gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2016, i geisio deall pan fod ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth Cymru yn ymdrechu i recriwtio a chadw ei gweithlu Nyrsio.  Mae yn derbyn arweiniant oddi wrth Dr Rachel Rahman a Dr Jiaqing O - Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth.  Mae ei ymchwil wedi cyfrannu i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol fel a ganlyn:

Tach 2022

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster

‘A historical account of rural health and care services: a brief journey through time’

Ion 2022

Cymdeithas Ddysgiedig Cymru – Cyd-ennillydd am gyflwyniad poster a llafar:

‘The Excitement of the City: the perspectives of Welsh urban working nurses regarding the rural recruitment challenge’

Tach 2019

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:

How urban based nurses can inform the rural recruitment challenge’

Tach 2019

Argraffiad (Journal of Rural Studies – Ffactor Effaith 3.3):

Jones, A., Rahman, R. J. & O, J. (2019). A crisis in the countryside - Barriers to nurse recruitment and retention in rural areas of high-income countries: A qualitative meta-analysis. Journal of Rural Studies. 72. 153-163.

Chwe 2019

Cynhadledd Arddangos Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyflwyniad poster:

‘Time and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’

Tach 2018

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:

Time, Traffic and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’   

Tach 2017

Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster:

Health in the HINTERLANDS: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’

Gorff 2017

Cynhadledd Ysbrydoli Arloesi mewn YmarferCyflwyniad llafar:

Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’

Meh 2017

Trans-Atlantic Rural Research Network – Papur Trafod/Llafar:

Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’

Mai 2017

Cynhadledd Prif Swyddog Nyrsio - Cyflwyniad poster:

‘Health in the Hinterlands: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Angharad wedi ei geni a’i magu mewn ardal amaethyddol wledig yng Nghanolbarth Cymru.  Mae hi yn rhugl yn y Gymraeg, and yn frwdfrydig ynglŷn â sicrhau gwasanaethau gofal ac iechyd a darpariaeth ecwiti i breswylwyr gwledig.

Cyfrifoldebau

Ar ran y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd:

  • Tiwtor Personol
  • Tiwtor Cysylltiol Addysgol
  • Tiwtor Derbyn
  • Arweinydd Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr ac Aelodau o’r Cyhoedd
  • Arweinydd Ymchwil
  • Arweinydd yr Iaith Gymraeg
  • Arweinydd Iechyd Gwledig
  • Arweinydd Cynaladwyedd
  • Arweinydd Un Iechyd
  • Aelod Cysylltiol Addysg Bellach

Dysgu

Mae Angharad yn cyfranogi mewn gweithgareddau dysgu ar fodiwlau craidd i gyd.  Mae hi yn Gydlynydd Modiwl am:

Modiwl 3 (Deall Corff Dynol)

Modiwl 8 (Datblygu Ymarfer Proffesiynol - maes oedolion)

Modiwl 11 (Trosiant i Ymarfer Ymreolaethol - maes oedolion)

Mae hi hefyd yn Arweinydd Asesu Academaidd i Ran 2 o’r rhaglen.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Angharad Jones ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg