Proffil personol
Proffil
Mae Angharad yn aelod sefydledig o’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ac roedd yn aelod o Bwrdd Prosiect y Radd Nyrsio a ddiogelodd y tendr i ddarparu addysg nyrsio cyn-gofrestredig (meysydd oedolion ac iechyd meddwl) ar gyfer canolbarth Cymru. Roedd hi hefyd yn rhan o dîm Addysg Gofal Iechyd a sicrhaodd achrediad penagored y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i Brifysgol Aberystwyth i fod yn Sefydliad Addysgol Cymeradwyol.
Mae Angharad wedi gweithio mewn meysydd clinigol (AU & GIC), addysg nyrsio ac ymchwil am y 25 mlynedd diwethaf. Yn ogystal â’i chymhwyster NG Nyrsio Plant (Prifysgol Swydd Stafford) a chefndir clinigol o nyrsio pediatreg, mae hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol -Nyrsio Ysgol (Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrian Cymru – Prifysgol Glyndwr nawr) ac yn Athrawes Nyrsio Gofrestredig gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigaeth wedi iddi gwblhau cwrs GPMA (gan ymgorffori’r Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes) gyda Phrifysgol Cymru Casnewydd, lle gwobrwywyd a Chyrhaeddiad Arbennig.
Mae ganddi brofiad a diddordeb penodol mewn modelau nyrsio cymunedol, egwyddorion Un Iechyd, ymchwil gofal iechyd, iechyd gwledig - yn enwedig y gweithlu iechyd gwledig, modelau o ddarparu gwasanaethau/addysgu iechyd gwledig ac iechyd a llesiant ym mhlith cymunedau amaethyddol. Mi gwblhaodd ei PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2023.
Dysgu
Asesydd Academaidd:
NU10460 Arddangos Ymarfer Proffesiynol
NU20760 Datblygu Ymarfer Proffesiynol
NU10960 Arddangos Ymarfer Nyrsio
Cydlynydd Modiwl:
NU10320 Understanding the Human Body
Cydlynydd Rhaglen:
Certificate in Healthcare Education (Level 4)
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Angharad wedi ei geni a’i magu mewn ardal amaethyddol wledig yng Nghanolbarth Cymru. Mae hi yn rhugl yn y Gymraeg, and yn frwdfrydig ynglŷn â sicrhau gwasanaethau gofal ac iechyd a darpariaeth ecwiti i breswylwyr gwledig.
Cyfrifoldebau
Mae cyfrifoldeb Angharad yn cynnwys:
- Tiwtor Personol
- Tiwtor Cysylltiol Addysgol
- Tiwtor Derbyn
Yn ogystal, mae’n arwain y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn y meysydd canlynol:
- Defnyddwyr Gwasanaethau, Gofalwyr ac Aelodau o’r Cyhoedd
- Ymchwil
- Yr Iaith Gymraeg
- Iechyd Gwledig
- Cynaladwyedd
- Un Iechyd
- Aelod Cysylltiol Addysg Bellach
- Diogelwch Biolegol
- Dogfennaeth Glinigol
Diddordebau ymchwil
Mae Angharad yn angerddol am ddarpariaeth o nyrsio ansawdd uchel mewn ardaloedd gwledig ac felly, mi benderfynodd ddilyn cwrs PhD gyda Phrifysgol Aberystwyth yn 2016, i geisio deall pan fod ardaloedd gwledig yng Nghanolbarth Cymru yn ymdrechu i recriwtio a chadw ei gweithlu nyrsio, gan gwblhau'r doethuriaeth yn 2023. Derbyniodd arweiniant oddi wrth Dr Rachel Rahman a Dr Jiaqing O - Adran Seicoleg, Prifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil wedi cyfrannu i gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol fel a ganlyn:
Mai 2023
Cymdeithas Seicoleg Prydeinig - Cyflwyniad llafar:
‘Inclusive of inequitable? Discussing the Welsh nursing workforce recruitment challenge through a social class lens’
Tach 2022
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster:
‘A historical account of rural health and care services: a brief journey through time’
Ion 2022
Cymdeithas Ddysgiedig Cymru – Cyd-ennillydd am gyflwyniad poster a llafar:
‘The Excitement of the City: the perspectives of Welsh urban working nurses regarding the rural recruitment challenge’
Tach 2019
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:
‘How urban based nurses can inform the rural recruitment challenge’
Tach 2019
Argraffiad (Journal of Rural Studies – Ffactor Effaith 3.3):
Jones, A., Rahman, R. J. & O, J. (2019). A crisis in the countryside - Barriers to nurse recruitment and retention in rural areas of high-income countries: A qualitative meta-analysis. Journal of Rural Studies. 72. 153-163.
Chwe 2019
Cynhadledd Arddangos Iechyd Cyhoeddus Cymru - Cyflwyniad poster:
‘Time and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’
Tach 2018
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad llafar:
‘Time, Traffic and Travel: the perspectives of Welsh rural nurses regarding the rural recruitment challenge’
Tach 2017
Cynhadledd Gofal a Iechyd Gweldig Cymru – Cyflwyniad poster:
‘Health in the HINTERLANDS: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’
Gorff 2017
Cynhadledd Ysbrydoli Arloesi mewn Ymarfer - Cyflwyniad llafar:
‘Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’
Meh 2017
Trans-Atlantic Rural Research Network – Papur Trafod/Llafar:
‘Rural Nurse Recruitment and Retention: a crisis in the countryside’
Mai 2017
Cynhadledd Prif Swyddog Nyrsio - Cyflwyniad poster:
‘Health in the Hinterlands: the Welsh rural nurse recruitment and retention challenge’
Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
-
NDC 3 Iechyd a Llesiant Da
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg
Allbwn ymchwil
- 1 Erthygl Adolygu
-
A crisis in the countryside - Barriers to nurse recruitment and retention in rural areas of high-income countries: A qualitative meta-analysis
Jones, C. A., Rahman, R. & O, J., 31 Rhag 2019, Yn: Journal of Rural Studies. 72, t. 153-163 11 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl Adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil41 Dyfyniadau (Scopus)1034 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)
Toriadau
-
Aberystwyth University to expand nursing education from September
17 Awst 2023
1 eitem o Sylw ar y cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Sylw yn y cyfryngau