Llun o Becca Roberts

Becca Roberts

BVSc MRCVS

Proffil personol

Proffil

Ymunais ag Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth fel Darlithydd Gwyddor Filfeddygol ym mis Ionawr, 2024.

Graddiais fel milfeddyg o Brifysgol Bryste yn 2010, cyn ymuno â phractis yn Aberteifi, Gorllewin Cymru, lle bûm yn gweithio fel milfeddyg anifeiliaid cymysg am 7 mlynedd. Gweithiais yn bennaf gyda da godro a datblygais ddiddordeb brwd mewn meddygaeth ataliol ar gyfer anifeiliaid fferm. Yn 2017, symudais i weithio fel milfeddyg anghlinigol mewn practis yn Hwlffordd, lle roeddwn yn gyfrifol am gynllunio iechyd ataliol a hyfforddi ffermwyr. Yn 2020, dechreuais PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn ymchwilio i ganfod clefydau’n gynnar mewn anifeiliaid cnoi cil gan ddefnyddio technolegau ffermio da byw manwl gywir.