Charles Musselwhite

Prof, PhD (Transportation Research Group, University of Southampton), PGCert with Distinction (Research Supervision, Bournemouth University), BSc Hons (Psychology, University of Southampton)

Yn barod i siarad â’r cyfryngau

20062025

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Rwy’n Athro a Phennaeth Seicoleg, ac yn ddeiliad Cadair yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae fy ymchwil yn cynnwys defnyddio seicoleg gymdeithasol, amgylcheddol ac iechyd i ddeall a gwella’r berthynas rhwng yr amgylchedd adeiledig a thrafnidiaeth ac iechyd. Rwy’n gyd-gyfarwyddwr dwy ganolfan ymchwil a ariennir, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia a’r Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd. Rwyf hefyd yn gyd-gyfarwyddwr Canolfan Trafnidiaeth a Symudedd, canolfan ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rwy’n dros 60 o erthyglau a adolygwyd gan gymheiriaid mewn cyfnodolion, dros 26 o benodau mewn llyfrau a phum llyfr. Rwy'n Gymrawd yr Academi Gwyddorau Cymdeithasol.. Fi yw Cadeirydd newydd GrŵpFi yw Cadeirydd newydd Grŵp Astudiaethau Trafnidiaeth y Prifysgolion. Bûm yn aelod o bwyllgor gweithredol Cymdeithas Gerontoleg Prydain (BSG) rhwng 2015 a 2020, ac yn sefydlydd a chyd-arweinydd grŵp diddordeb arbennig y BSG ar symudedd a thrafnidiaeth yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae fy ngwaith ymchwil wedi cynnwys dros 125 o gyflwyniadau mewn cynadleddau, gan gynnwys cyflwyniadau gwadd mewn dros 60 o gynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol. Rwy’n gweithio’n agos gyda’r llywodraeth, elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ac rwy’n awyddus i ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn rhannu fy ymchwil gyda’r byd go iawn. Rwyf wedi gwneud dau gyflwyniad mewn Gwyliau Gwyddoniaeth Prydeinig (2008 a 2016) ac wedi ysgrifennu llawer o erthyglau ar gyfer y cyhoedd. Rwyf wedi ymddangos ar deledu a radio yn trafod amrywiaeth o bynciau’n ymwneud â heneiddio, symudedd a’r amgylchedd adeiledig. Rwy’n brif olygydd y Journal of Transport & Health (Elsevier) ac ar fwrdd golygyddol cyfnodolion EnvisAGE (Age Cymru) a Research in Transportation Business & Management (Elsevier). 

Diddordebau ymchwil

Dau brif faes o ddiddordeb sydd gennyf, sef (1) gerontoleg amgylcheddol, yn craffu ar y berthynas rhwng yr amgylchedd ac iechyd yn ystod y cyfnodau diweddarach mewn bywyd, gan gynnwys diogelwch i ddefnyddwyr ffyrdd hŷn, rhoi'r gorau i yrru, a chreu cymdogaethau a chymunedau mwy addas i bobl hŷn; (2) trafnidiaeth ac iechyd, gan gynnwys yr agweddau cymdeithasol ar drafnidiaeth a symudedd. Rwyf wedi gweithio ar dros 45 o brosiectau ymchwil fel prif ymchwilydd neu cyd-ymchwilydd, yn dod â chyfanswm o dros £26m o incwm ymchwil. Ar hyn o bryd myfi yw’r Prif Ymchwilydd ac yn Gyd-gyfarwyddwr ar 2 brosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru: sef (1) y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), prosiect £3m i sicrhau bod ymchwil i heneiddio yn bwydo i bolisi ac ymarfer ledled Cymru; (2) Rhwydwaith Ymchwil Integredig Trafnidiaeth ac Iechyd (THINK) gwerth £400k, sy’n dwyn ynghyd y rhai sy'n gweithio ym mesydd ymchwil iechyd a thrafnidiaeth o wahanol ddisgyblaethau.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 11 - Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd

Safleoedd allanol

Series Editor Cogent Gerontology, Taylor and Francis

11 Awst 2022 → …

Editor In Chief Journal of Transport & Health, Elsevier

01 Ion 2020 → …

Allweddeiriau

  • BF Psychology

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Charles Musselwhite ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu