Proffil personol
Cyfrifoldebau
Tiwtor Personol/Aseswr Academaidd
Cydlynydd Modiwlau
Arweinydd Maes, Iechyd Meddwl
Darlithydd Cyswllt
Dysgu
Mae’n dysgu ar draws yr holl fodiwlau ar y rhaglenni BSc Nyrsio ar gyfer Nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl.
Cydlynydd y Modiwl:
- NU20220: Cyflwyniad i Nyrsio Iechyd Meddwl
- NU20620: Pathoffisioleg Cyflyrau Iechyd Meddwl Cyffredin
Proffil
Mae Darren yn ddarlithydd iechyd meddwl ym maes addysg gofal iechyd ac yn arweinydd iechyd meddwl yn ei faes yn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd. Yn y gorffennol bu’n rhan o ddatblygu'r cwricwlwm ar raglenni nyrsio cyn cofrestru ac ôl-gofrestru.
Mae Darren yn Nyrs Iechyd Meddwl Gofrestredig ers dros ugain mlynedd ac mae'n Diwtor Nyrsys Cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ers cwblhau ei PGCEd gyda Phrifysgol Cymru, Casnewydd yn 2005. Dyfarnwyd gradd Meistr mewn Nyrsio o Brifysgol Caerdydd iddo ynghyd â gradd Meistr mewn Addysg (Rhagoriaeth) o Brifysgol Morgannwg, lle cwblhaodd brosiect ymchwil ar ddefnyddio technegau efelychu ym maes nyrsio iechyd meddwl cyn cofrestru. Bu hefyd yn cydlynu’r elfen nyrsio iechyd meddwl yn rhan o beilot y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a oedd yn ymchwilio i ddefnyddio technegau efelychu mewn rhaglenni nyrsio cyn-gofrestru. Bu hefyd yn arholwr allanol ar raglenni nyrsio cyn cofrestru ac ôl-gofrestru. Mae'n adolygydd cyfoedion ym maes Ymarfer Nyrsio Iechyd Meddwl. Mae hefyd yn aelod o Rwydwaith yr EPICC sy'n edrych ar ddatblygu cymhwysedd gofal ysbrydol drwy addysg arloesol a gofal tosturiol.
Mae gan Darren brofiad o waith nyrsio iechyd meddwl hŷn, yn ogystal â diddordeb penodol yn y pwnc hwnnw, yn enwedig dementia. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil mae dementia a rôl technegau efelychu mewn addysg nyrsio. Mae ganddo brofiad o ddamcaniaeth seiliedig, techneg grŵp enwol a methodolegau ymchwil gwerthuso goleuol.
Gwybodaeth ychwanegol
FHEA
Diddordebau ymchwil
Dementia
Technegau efelychu yn rhan o addysg nyrsio
Ysbrydolrwydd mewn gofal nyrsio
Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
-
NDC 3 Iechyd a Llesiant Da
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg