Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Dr, BA (hons), MA, PhD, PGCE
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Penodwyd David Russell Hulme yn Gyfarwyddwr Cerdd yn 1992. Oherwydd y galw mawr amdano fel arweinydd, mae ei raglen brysur wedi mynd ag ef i rai o’r prif neuaddau cyngerdd ledled Prydain, Iwerddon, Awstralia, Seland Newydd, UDA a Chanada, ac mae wedi ymddangos mewn llefydd mor amrywiol ag Opera Frenhinol Canada, Gŵyl Christchurch (Seland Newydd) a Gŵyl Ryngwladol Gilbert&Sullivan Buxton. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda’r cwmni opera enwog, y Carl Rosa Opera Company, prif gwmni operatâu Saesneg y byd, ac yn 2001 teithiodd o amgylch Awstralia a Seland Newydd, yn arwain Cerddorfa Talaith Victoria, yr Auckland Philharmonia a Cherddorfa Tŷ Opera Sydney, cyn mynd ar deithiau o gwmpas UDA a Chanada yn 2004 a 2006.
Astudiodd David gerddoriaeth yn Aberystwyth o dan Ian Parrott, ac arwain o dan neb llai na Syr Adrian Boult. Cafodd raddau MA a PhD am ei ymchwil i Gerddoriaeth Prydeinig, ac mae wedi cyhoeddi’n eang, gan gynnwys erthyglau ar gyfer y New Grove Dictionary of Music and Musicians a Phroms y BBC. Cafodd ei ddisgrifio yn Opera fel ‘ein prif awdurdod ar lawysgrifau Sullivan’, bu’n ymwneud yn agos â chynyrchiadau gan gwmnïau opera blaenllaw yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, Opera Cenedlaethol Lloegr (ENO), New Sadler’s Wells a D’Oyly Carte, yn ogystal ag eraill yn America ac Awstralia. Golygodd gerddoriaeth Sullivan a gweithiodd mewn rôl ymgynghorol ar gyfer ffilm Mike Leigh, Topsy-Turvy, a enillodd Oscar, ac fe gafodd ei argraffiad arloesol a llwyddiannus o Ruddigore, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ei berfformio’n ddiweddar gan Opera North. Mae’r gweithiau eraill y mae wedi’u golygu ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen yn amrywio o Paukenmesse Haydn i Ail Symffoni Walton.
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cyfansoddiad
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Trafodion Cynhadledd (ISBN)
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur
Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Doethurol › Doethur yn y Athroniaeth
01 Ion 2007
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad i'r Cyfryngau
18 Ebr 2006
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad i'r Cyfryngau
17 Meh 2005
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad i'r Cyfryngau
Hulme, D. R. (Siaradwr gwadd)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Hulme, D. R. (Siaradwr gwadd)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Hulme, D. R. (Adolygydd cymheiriaid)
Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Adolygu cyhoeddiadau cymheiriaid
Hulme, D. R. (Aelod o bwyllgor rhaglen)
Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Gŵyl neu Arddangosfa
Hulme, D. R. (Adolygydd cymheiriaid)
Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Adolygu cyhoeddiadau cymheiriaid
Hulme, D. R. (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelod o gymdeithas broffesiynol
Hulme, D. R. (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Hulme, D. R. (Derbynydd), 2015
Gwobr: Cymrodoriaeth a roddwyd ar sail cystadleuaeth