Eleri Pryse

Prof

1987 …2024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Cafodd Eleri Pryse radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg o Brifysgol Cymru ac yna radd PhD am ymchwil i strwythurau bychain yn yr ionosffer gan ddefnyddio signalau radio o loerennau. Cafodd ei phenodi'n ddarlithydd ffiseg yn Aberystwyth yn 1989. Arloesodd ddulliau tomograffig o "dynnu llun" yr atmosffer trydanol, ac mae wedi gwneud defnydd eang o'r dechneg yn ardal pegwn y gogledd a'r rhanbarth awroraidd i astudio effeithiau tywydd y gofod a phrosesau plasma sylfaenol yn yr atmosffer ar ledredau uchel. Mae'n arwain y dysgu ac addysgu yn yr adran Ffiseg.

Diddordebau ymchwil

Mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar yr atmosffer trydanol, neu'r ionosffer fel y'i gelwir. Ym mlynyddoedd cynnar fy ngyrfa defnyddiais fflachennau ar donnau radio i ymchwilio strwythurau bychain yn yr atmosffer trydanol ar ledredau awroraidd ac is-awroraidd. Yn diweddarach cymhwysais dechneg tomograffi i ddelweddu'r ionosffer, gan ei datblygu o syniad damcaniaethol i ddull arbrofol. Mae'r dechneg yn defnyddio signalau radio o loerennau ac mae'n darparu lluniau o strwythur y plasma. Defnyddiwyd radar EISCAT (European Incoherent SCATter radar) i wirio'r dull.

Defnyddiwyd cadwyn o dderbynyddion tomograffi gan grwp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul, Prifysgol Aberystwyth ar gyfer delweddu yr ionosffer ar ledredau uchel, gyda derbynyddion yn Ny Ålesund, Longyearbyen, Bjørnøya and Tromsø. Lleolwyd y gadwyn mewn man addas i ddelweddu'r ionosffer dros amrediad eang o ledredau yn ymestyn o'r rhanbarth awroraidd tuag at begwn y gogledd. Roedd y gadwyn yn arsylwi effeithiau: tywydd y gofod, y cysylltu rhwng maes magnetig y Ddaear a'r maes magnetig yng ngwynt yr Haul, gronynnau egniol sy'n dod i mewn i'r atmosffer yn y rhanbarth awroraidd, a'r llif plasma ar ledredau uchel. Roedd y delweddau yn cael eu hatgyfnerthu gan arsylwadau a wnaed gan nifer o arbrofion yn yr ardaloedd awroraidd a phegynol gan y gymuned wyddonol ryngwladol, yn cynnwys systemau radar EISCAT/ESR a CUTLASS, camerâu optegol a mesuriadau gronynnau gan loerennau, a hefyd modelau o'r atmosffer trydanol. Ehangwyd fy niddordeb ionosfferig i atmosffer trydanol planedol, gyda diddordeb yn benodol mewn arsylwadau gan long ofod VEX (Venus Express).

Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio ar brosiect sy'n ymchwilio i ddelweddu y cafn yn yr ionosffer ar ledredau canolig.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Eleri Pryse ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu