Proffil personol
Proffil
Cafodd Eleri Pryse radd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg o Brifysgol Cymru ac yna radd PhD am ymchwil i strwythurau bychain yn yr ionosffer gan ddefnyddio signalau radio o loerennau. Cafodd ei phenodi'n ddarlithydd ffiseg yn Aberystwyth yn 1989. Arloesodd ddulliau tomograffig o "dynnu llun" yr atmosffer trydanol, ac mae wedi gwneud defnydd eang o'r dechneg yn ardal pegwn y gogledd a'r rhanbarth awroraidd i astudio effeithiau tywydd y gofod a phrosesau plasma sylfaenol yn yr atmosffer ar ledredau uchel. Mae'n arwain y dysgu ac addysgu yn yr adran Ffiseg.
Diddordebau ymchwil
Mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar yr atmosffer trydanol, neu'r ionosffer fel y'i gelwir. Ym mlynyddoedd cynnar fy ngyrfa defnyddiais fflachennau ar donnau radio i ymchwilio strwythurau bychain yn yr atmosffer trydanol ar ledredau awroraidd ac is-awroraidd. Yn diweddarach cymhwysais dechneg tomograffi i ddelweddu'r ionosffer, gan ei datblygu o syniad damcaniaethol i ddull arbrofol. Mae'r dechneg yn defnyddio signalau radio o loerennau ac mae'n darparu lluniau o strwythur y plasma. Defnyddiwyd radar EISCAT (European Incoherent SCATter radar) i wirio'r dull.
Defnyddiwyd cadwyn o dderbynyddion tomograffi gan grwp ymchwil Ffiseg Cysawd yr Haul, Prifysgol Aberystwyth ar gyfer delweddu yr ionosffer ar ledredau uchel, gyda derbynyddion yn Ny Ålesund, Longyearbyen, Bjørnøya and Tromsø. Lleolwyd y gadwyn mewn man addas i ddelweddu'r ionosffer dros amrediad eang o ledredau yn ymestyn o'r rhanbarth awroraidd tuag at begwn y gogledd. Roedd y gadwyn yn arsylwi effeithiau: tywydd y gofod, y cysylltu rhwng maes magnetig y Ddaear a'r maes magnetig yng ngwynt yr Haul, gronynnau egniol sy'n dod i mewn i'r atmosffer yn y rhanbarth awroraidd, a'r llif plasma ar ledredau uchel. Roedd y delweddau yn cael eu hatgyfnerthu gan arsylwadau a wnaed gan nifer o arbrofion yn yr ardaloedd awroraidd a phegynol gan y gymuned wyddonol ryngwladol, yn cynnwys systemau radar EISCAT/ESR a CUTLASS, camerâu optegol a mesuriadau gronynnau gan loerennau, a hefyd modelau o'r atmosffer trydanol. Ehangwyd fy niddordeb ionosfferig i atmosffer trydanol planedol, gyda diddordeb yn benodol mewn arsylwadau gan long ofod VEX (Venus Express).
Ar hyn o bryd rwyf yn gweithio ar brosiect sy'n ymchwilio i ddelweddu y cafn yn yr ionosffer ar ledredau canolig.
Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
-
NDC 3 Iechyd a Llesiant Da
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg
Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf
-
Quasi-stationary substructure within a sporadic E layer observed by the Low-Frequency Array (LOFAR)
Wood, A. G., Dorrian, G. D., Boyde, B., Fallows, R. A., Themens, D. R., Mevius, M., Sprenger, T., Main, R., Pryse, S. E. & Elvidge, S., 11 Hyd 2024, Yn: Journal of Space Weather and Space Climate. 14, 16 t., 27.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil2 Dyfyniadau (Scopus)2 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
Modelling the Main ionospheric trough using the Electron Density Assimilative Model (EDAM) with assimilated GPS TEC
Parker, J., Pryse, S., Jackson-Booth, N. & Buckland, R., 25 Ion 2018, Yn: Annales Geophysicae. 36, t. 125-138 14 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil8 Dyfyniadau (Scopus)198 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
Modelling large-scale structures in the high-latitude ionosphere using 15 years of data from the EISCAT Svalbard Radar
Wood, A. G., Shahtahmassebi, G. & Pryse, E., 01 Ebr 2015, Yn: Geophysical Research Abstracts. 17, 1 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Crynodeb Cyfarfod
Mynediad agoredFfeil34 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
The transterminator ion flow at Venus at solar minimum
Wood, A. G., Pryse, S. E., Grande, M., Whittaker, I. C., Coates, A. J., Husband, K., Baumjohann, W., Zhang, T. L., Mazelle, C., Kallio, E., Fraenz, M., McKenna-Lawlor, S. & Wurz, P., Rhag 2012, Yn: Planetary and Space Science. 73, 1, t. 341-346 6 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
1 Dyfyniad (Scopus) -
Seasonal influence on polar cap patches in the high-latitude nightside ionosphere
Wood, A. G. & Pryse, S. E., 15 Gorff 2010, Yn: Journal of Geophysical Research: Space Physics. 115, A7, t. A07311:1-A07311:9 A07311.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agored -
Modelling the tongue-of-ionisation using CTIP with SuperDARN electric potential input: verification by radiotomography
Pryse, S. E., Whittick, E. L., Aylward, A. D., Middleton, H. R., Brown, D. S., Lester, M. & Secan, J. A., 2009, Yn: Annales Geophysicae. 27, t. 1139-1152 14 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil5 Dyfyniadau (Scopus)173 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
Modulation of nightside polar patches by substorm activity
Wood, A. G., Pryse, S. E. & Moen, J., 2009, Yn: Annales Geophysicae. 27, t. 3923-3932 10 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil9 Dyfyniadau (Scopus)136 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
Near-Earth space plasma modelling and forecasting
Strangeways, H. J., Kutiev, I., Cander, L. R., Kouris, S., Gherm, V., Marin, D., Morena, B. D. L., Pryse, S. E., Perrone, L., Pietrella, M., Stankov, S., Tomasik, L., Tulunay, E., Tulunay, Y., Zernov, N. & Zolesi, B., 2009, Yn: Annals of Geophysics. 52, 3-4, t. 255-271 17 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
27 Dyfyniadau (Scopus) -
Multi-instrument observations of nightside plasma patches under conditions of IMF Bz positive
Wood, A. G., Pryse, S. E., Middleton, H. R. & Howells, V. S. C., 2008, Yn: Annales Geophysicae. 26, 8, t. 2203-2216 14 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
Mynediad agoredFfeil6 Dyfyniadau (Scopus)169 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
The role of the tongue-of-ionization in the formation of the poleward wall of the main trough in the European post-midnight sector
Middleton, H. R., Pryse, S. E., Wood, A. G. & Balthazor, R. L., 16 Chwef 2008, Yn: Journal of Geophysical Research: Space Physics. 113, A2, A02306.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil16 Dyfyniadau (Scopus)205 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure) -
Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd
Pryse, E., Middleton, H. R. & Wood, A. G., 01 Hyd 2007, Yn: Gwerddon. 1, 2, t. 35-50 16 t.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agoredFfeil77 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)
-
EISCAT_3D: Fine-scale structuring, scintillation, and electrodynamics (FINESSE)
Johnson, R. (Prif Ymchwilydd), Pryse, S. (Prif Ymchwilydd) & Pryse, E. (Prif Ymchwilydd)
Natural Environment Research Council
11 Ebr 2022 → 10 Ebr 2026
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
-
National Spectrum Innovation engineering and Experimentation Centre (N-SIEEC) Research and Development Planning
Pryse, E. (Prif Ymchwilydd)
Llywodraeth Cymru | Welsh Government
01 Chwef 2018 → 31 Ion 2019
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
-
RAS200: outline proposal - Astronomy and Geophysics Through the Traditional Culture of Wales
Pryse, E. (Prif Ymchwilydd)
01 Awst 2015 → 31 Rhag 2022
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol