Elin Royles

Dr, BSc Prifysgol Cymru Aberystwyth, MSc (Econ) Prifysgol Cymru Aberystwyth, PhD Prifysgol Cymru Aberystwyth

Cyfrifwyd yn seiliedig ar nifer y cyhoeddiadau sydd wedi eu storio yn Pure a dyfyniadau o Scpous
20032023

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Os gwnaethoch unrhyw newidiadau yn Pure byddwch yn gallu eu gweld yn y fan yma cyn hir.

Proffil personol

Proffil

Ymunodd Elin â'r Adran fel aelod o staff yn 2003 ac mae'n Ddarllenydd. Mae ei diddordebau ymchwil ac addysgu yn ymwneud gyda'r meysydd canlynol:

Gwleidyddiaeth diriogaethol a gwleidyddiaeth wedi datganoli yn y DU;

Diplomyddiaeth is-wladwriaethol a Chodi Cenedl;

Polisiau newid hinsawdd a datblygu cynaliadwy is-wladwriaethau;

Cymdeithas sifil;

Polisi a Chynllunio Iaith.

Mae'n Aelod o Bwyllgor Gweithredol ac arweinydd thema 'Iaith, Diwylliant a Hunaniaethau' Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru y Brifysgol ac yn aelod o dîm Recriwtio, Mynediad a Marchnata'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. 

Diddordebau ymchwil

Prif feysydd ymchwil: Gwleidyddiaeth diriogaethol a gwleidyddiaeth wedi datganoli yn y DU; Diplomyddiaeth is-wladwriaethol a Chodi Cenedl; Polisiau newid hinsawdd a datblygu cynaliadwy is-wladwriaethau; Cymdeithas sifil; Polisi a Chynllunio Iaith.

Mae’n rhan o’r canlynol:

Grantiau ymchwil:

WP C3.1 - Shifting forms of governance and the grassroots politics of separatism, rhan o thema 3 Contentious Politics and Civic Gain y prosiect WISERD Civil Society - Civic Satisfaction and Civil Repair a ariennir gan yr ESRC (gyda Dr Anwen Elias, Yr Athro Rhys Jones a Dr Nuria Franco-Guillen)

Prosiect Ymddiriedolaeth James Madison, 'Assessing the UK’s new intergovernmental relations architecture post-Brexit'

Gwerthusiadau:

Gwerthusiad o raglen ARFOR 2 wedi ei arwain gan Wavehill fel y prif gontractwr

Enillodd ei thraethawd doethurol wobr Walter Bagehot y Political Studies Association am y traethawd gorau ym maes llywodraeth a gweinyddiaeth gyhoeddus yn 2004-05 a rhwng 2005 a 2014 bu’n gyd-olygydd y cyfnodolyn Contemporary Wales.

Dysgu

Goruchwylio PhD
Gwleidyddiaeth diriogaethol a llywodraethiant is-wladwriaethol

Gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru
Polisi a chynllunio ieithyddol

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 13 - Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Elin Royles ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu