Proffil personol
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau
Mae cyfrifoldebau Betty yn cynnwys:
Tiwtor Personol/Asesydd Academaidd
Darlithydd Cyswllt Cymunedol
Cydlynydd Modiwlau
Yn ogystal, bydd Betty yn arwain y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn y meysydd canlynol:
Arweinydd y Gymraeg
learning@Wales (cyrsiau ar-lein ar gyfer myfyrwyr nyrsio)
Dysgu
Dysgu
Bydd Betty yn dysgu ar draws holl fodiwlau’r Rhaglenni Nyrsio BSc ar gyfer nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl, yn ogystal â’r rhaglen lefel 4 a'r rhaglen dychwelyd i ymarfer.
Mae gan Betty brofiad a diddordeb penodol mewn Nyrsio ym maes Iechyd Cymunedol/Cyhoeddus a hefyd mewn plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, ac mae’n awyddus i weithio’n neilltuol er mwyn atal a rhoi gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r meysydd sy’n bwysig i Betty yn cynnwys materion sy’n ymwneud â’r bledren a’r coluddion mewn plant, rheoli ymddygiad, ADHD ac awtistiaeth, ac asesiadau datblygiadol a thrwy ei diddordeb yn y meysydd hyn mae Betty wedi cefnogi cydweithwyr a theuluoedd, disgyblaethau eraill ac asiantaethau a hefyd wedi dysgu ar y pynciau.
Gwybodaeth ychwanegol
Gwybodaeth Ychwanegol
Ganwyd Betty yn Aberystwyth a bu'n byw yng Ngheredigion drwy gydol ei phlentyndod nes iddi symud i Dde Cymru i ddechrau ei hyfforddiant nyrsio.
Cymraeg yw iaith gyntaf Betty, ac felly bydd yn gallu cefnogi'r myfyrwyr yn academaidd ac yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Mae Betty yn edrych ymlaen i ymgynefino â’i swydd newydd gan roi o’i gorau i’w rôl newydd yn y byd academaidd. Mae hefyd yn edrych ymlaen at ymgymryd â'i chwrs TUAAU ym Mhrifysgol Aberystwyth i'w chefnogi yn ei rôl fel Darlithydd Cymunedol.
Proffil
Proffil
Mae Betty (Elizabeth) newydd ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd Cymunedol rhan-amser mewn Addysg Gofal Iechyd.
Mae gan Betty gofrestriad deuol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel Nyrs Gofrestredig ac fel Nyrs Gymunedol Arbenigol ym maes Iechyd Cyhoeddus. Mae hefyd yn Nyrs Gofrestredig sy’n Rhagnodi.
Mae Betty wedi gweithio ym maes gofal iechyd dros y 40 mlynedd diwethaf, gan weithio mewn gwahanol leoliadau a thimau gan gynnwys ysbytai'r GIG, gwaith asiantaeth yn Llundain, cartref gofal preswyl preifat i oedolion hŷn a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd. Mae wedi gweithio mewn ardaloedd Dechrau'n Deg fel Ymwelydd Iechyd, yng Nghyngor Sir Ceredigion a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bu’n Frechwr Covid (Banc) a'i swydd ddiwethaf oedd gweithio fel Ymwelydd Iechyd Arbenigol/Gweithiwr Allweddol o fewn y Tîm Anabledd Iechyd Plant, gan weithio ledled Ceredigion.