Fred Slater

Dr, BSc, MSc, PhD, CEcol, CEnv, FCIEEM(rtd), PGCEd

20062008

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Ganed Fred Slater yn yr Ardal Ddu yng Nghanolbarth Lloegr, ond mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers dros 50 mlynedd. Ar ôl ennill ei BSc (Anrh) mewn Botaneg o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, dychwelodd i Orllewin Canolbarth Lloegr i addysgu Bioleg yn Ysgol Ramadeg Darlaston fel yr oedd bryd hynny. Ar ôl ennill ei Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Prifysgol Llundain) ar yr un pryd â’i radd MSc mewn Ecoleg Mawndiroedd (Prifysgol Cymru) dychwelodd i Aberystwyth fel Arddangoswr (Darlithydd Cynorthwyol) mewn Ecoleg yn yr Adran Botaneg a Microbioleg gan roi modd iddo astudio at ei ddoethuriaeth ar ecoleg Cors Fochno (y Borth) a mawndiroedd eraill Cymru.

Yn 1974 gadawodd Aberystwyth a chroesi Mynyddoedd Cambria i Bontnewydd-ar-Wy i fynd yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Maes Llysdinam a oedd newydd ei hagor, ac ym meddiant UWIST ar y pryd, ond yn sgil uno a newidiadau i enw’r sefydliad, mae bellach yn rhan o Ysgol Biowyddorau Caerdydd.

Er ei fod ar hyn o bryd yn Uwch-Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Ysgol y Biowyddorau, mae Fred Slater hefyd yn:

  • Cymrawd y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol
  • Enillydd medal arian ac Is-lywydd Anrhydeddus am Oes, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS)
  • Cymrawd Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol
  • Ecolegydd Siartredig
  • Amgylcheddwr Siartredig.

 

Gwybodaeth ychwanegol

  • Mae wedi gweithio gyda phartneriaid tramor ar sawl prosiect gan gynnwys astudio Dolffiniaid Afon Indus gyda Phrifysgol Sindh (fel Athro Gwadd) ac Adran Bywyd Gwyllt Sindh, gan gynnig dull gwarchod cyfannol ar yr Indus gan ddefnyddio ardaloedd biohidlo ochrol naturiol – syniad a fabwysiadwyd wedyn gan awdurdodau cadwraeth ar y Ganges.
  • Gweithiodd yn agos gyda Llywodraeth Ynysoedd Cape Verde ar faterion ecolegol yn ymwneud â physgodfeydd lleol a chrwbanod y môr a datblygu twristiaeth.
  • Mae wedi gweithio ym Majorca fel ymgynghorydd ecolegol gyda Richard Rogers Associates ar ddatblygiad mawr ger Palma.
  • Yn Seland Newydd mae wedi astudio Paranephrops planifrons (un o gimychiaid afon y wlad honno) gyda Dr Stephanie Payne ac Astacopsis gouldii (cimwch dŵr croyw mwya’r byd) yn Nhasmania gyda Tod Walsh.
  • Aeth ar ymweliad wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru i Awstralia i ddatblygu cysylltiadau academaidd gydag arbenigwyr Decapod yno.
  • Ef oedd y cyntaf i gofnodi mewn llenyddiaeth y cimwch Procambarus clarkii ym Majorca ac mae wedi mynd ar ymweliadau yn gysylltiedig â chimychiaid afon i Awstria, Sbaen, yr Eidal, Norwy, yr Almaen, Mecsico, UDA, Canada, Japan a De America.
  • Ymwelodd â Sabah i gynghori ar agweddau rheoli Gorsaf Astudiaethau Maes Danau Girang cyn iddo agor i fyfyrwyr Caerdydd.
  • Mae wedi llunio tua 200 o adroddiadau a chyhoeddiadau gan gynnwys tri llyfr a chyfrannu nifer o benodau i lyfrau eraill.
  • Adlewyrchir ei statws ecolegol yn y ffaith ei fod yn Gymrawd Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol ac yn un o’r Ecolegwyr Siartredig cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
  • Mae wedi bod yn Gymrawd yn Herpetofauna Consultants International.
  • Mae wedi cydweithio ar gnydau biomas gyda Phrifysgol Massey ar Ynys y Gogledd, Seland Newydd.
  • Yn sgil gweithio ar byllau byrhoedlog yng Nghymru, aeth i gyflwyno gwaith yn y maes hwn ym Mhortiwgal, yr Almaen, Awstralia, Ynysoedd Baleares a Brasil.
  • Yn rhinwedd ei swydd fel ymgynghorydd ecolegol mae wedi gweithio ar brosiectau ffermydd gwynt mawr gan gynnwys Carreg Wen yng ngogledd Powys gyda NPower Renewables a oedd yn cynnwys cynigion i drosi, ar ôl adeiladau’r fferm wynt, tua 30km2 o goed conwydd ar rostiroedd Llanbrynmair yn ôl yn laswelltir asid a rhostiroedd corlwyn. Mae wedi gwneud gwaith tebyg ar fferm wynt llai o faint Bryn Titley yng nghanolbarth Powys a ffermydd gwynt arfaethedig yn Sir Benfro, Trecelyn Gwent, ac Ardal y Llynnoedd.
  • Rhoddodd gyngor ar waith adfer dyfroedd sbwriel Glofa’r Chwe Chloch yn Abertyleri, o wastraff glofeydd a mwyngloddiau i laswelltiroedd asid, rhostiroedd corlwyn a choetiroedd bedw/coed criafol.
  • Mae wedi rhoi mewnbwn i ddyluniad sawl cynllun creu gwlypdiroedd yn defnyddio llystyfiant naturiol (gwelyau cyrs neu helyg) fel hidlyddion i wella ansawdd dŵr, gan gynnwys ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyd Afon Conwy, ar gyfer Cyngor Sir Powys ac ar Afon Indus ym Mhacistan ar gyfer cadwraeth dolffiniaid afon.
  • Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o weithio a chynghori ar faterion yn ymwneud â glaswelltiroedd e.e. mae wedi goruchwylio astudiaeth PhD i effeithiau rhoi calch ar laswelltiroedd yr ucheldir; mae wedi astudio’r adar gwybedogion brith mewn blychau nythu ers dros ddeugain mlynedd ac mae ganddo ddata ystadau am flychau nythu sy’n mynd yn ôl i’r cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf; yn yr un modd mae ganddo ddiddordebau helaeth mewn amffibiaid, ystlumod a mamaliaid bychain.

 

Diddordebau ymchwil

O 1970 gweithiai Fred Slater ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr hyn a elwid bryd hynny yn Adran Botaneg a Microbioleg lle bu’n ymchwilio i ecoleg arwyneb mawndiroedd canolbarth Cymru. Yn 1974 aeth dros Fynyddoedd y Cambria i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Maes Llysdinam, sydd bellach yn rhan annatod o Ysgol Biowyddorau Caerdydd.

Dros y blynyddoedd mae ei ddiddordebau ymchwil wedi ehangu o fotaneg pur ei ddyddiau yn Aberystwyth, er ei fod wedi bod yn rhan o ddisgrifio’r unig rywogaeth wahanol o blanhigyn blodyn brodorol i’w hychwanegu at fflora Cymru a Lloegr yn yr ugeinfed ganrif, sef disgrifiad o uniad planhigyn newydd o byllau byrhoedlog yr ucheldiroedd, ac yn fwy diweddar ymchwil i gnydau biomas gan felly gadw ei gymwysterau botanegol.

Yn sgil rhywfaint o ymchwil oportiwnistaidd gynnar, gwelodd yn glir cyn lleied oedd yn hysbys am ddosbarthiad ac ecoleg amffibiaid a hynny wedi’i arwain, gyda nifer o gynorthwywyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol, i archwilio’r llwybr hwn mewn sŵoleg gan gyfrannu’n sylweddol at y llenyddiaeth yn y maes hwn. Gan fod yr Afon Gwy yn llifo bron wrth garreg drws y Ganolfan Astudiaethau Maes, mae wedi ymchwilio cryn dipyn, gyda chymorth nifer o raddedigion ac ôl-ddoethurion, i “swyn” dau greadur yr afon – ill dau dan fygythiad ac yn warchodedig – sef y dyfrgi a chimwch crafanc gwyn yr afon. Mae ei ddiddordebau hefyd wedi amrywio o fywyd gwyllt yn cael eu hanafu ar y ffyrdd i asesiadau ar effaith amgylcheddol, o adfer cynefinoedd afonydd i ddolffiniaid Afon Indus ac o ecodwristiaeth i biohidlo.

Mae ei ddiddordebau ymchwil hefyd wedi cynnwys cynhyrchu a bioamrywiaeth helyg a glaswellt rhisomaidd lluosflwydd ar gyfer biomas; mwy o ecoleg amffibiaid, dyfrgwn a chimychiaid afon a gwrthdaro rhwng bioamrywiaeth ac ecodwristiaeth. Mae’n awdur tua 200 o adroddiadau a chyhoeddiadau yn bennaf am ecoleg canolbarth Cymru, gan gynnwys dau lyfr a phenodau mewn sawl llyfr arall. Yn y 1990au sefydlodd yr hyn sydd bellach  yn “Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd” yn Llysdinam.

Dysgu

 Cyrsiau presennol:  Mawn a Mawndiroedd yng Nghymru 

                              Amffibiaid yn yr Amgylchedd

Cyfrifoldebau

Mae wedi bod neu mae ar hyn o bryd yn:

  • Deiliad trwyddedau’r llywodraeth i astudio ystlumod, cimwch yr afon, misglod perlog yr afon, Chirocephalus, (berdys gwisgi), madfallod dŵr cribog ac mae ganddo drwydded dosbarth “A” i roi modrwy ar adar ac i hyfforddi
  • Arholwr PhD/MSc allanol.
  • Safonwr allanol ar gyfer cyrsiau gradd Meistr i Brifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru
  • Aelod Bwrdd ar gyfer Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Cadeirydd y Ffair Wanwyn a Chadeirydd a Chyfarwyddwr Anrhydeddus Cynorthwyol ar gyfer Garddwriaeth yn y Sioe Frenhinol
  • Am 10 mlynedd roedd yn aelod Proffesiynol/Gwyddonol ar bwyllgor statudol FERAC yr Asiantaeth yr Amgylchedd (Cymru) fel yr oedd bryd hynny
  • Ar Bwyllgor Ymgynghorol Ymchwil Amaethyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Aelod o Grŵp Strategaeth Coetiroedd a Biomas Llywodraeth y Cynulliad
  • Aelod o Sefydliad Ymchwil Amgylcheddol Caerdydd y Brifysgol
  • Aelod o WERC (Canolfan Ymchwil Ynni Cymru), grŵp llywio a sefydlwyd i gydlynu ymchwil ynni yng Nghymru
  • Un o sylfaenwyr Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheolaeth Amgylcheddol ac yn flaenorol yn is-gynullydd pwyllgor CIEEM i Gymru
  • Rhan o dîm rheoli Helyg i Gymru IBERS
  • Aelod o Fwrdd Asiantaeth Ynni Canolbarth Cymru
  • Asesydd Annibynnol ar gyfer Rhaglen Technolegau Ynni yr Adran Masnach a Diwydiant (biomas)
  • Sefydlodd Canolfan Biomas Cymru wedi’i lleoli yng Nghanolfan Astudiaethau Maes Llysdinam
  • Roedd wedi cadeirio a rheoli adran Sir Faesyfed o Ymddiriedolaeth Natur Henffordd a Maesyfed i’r graddau nes ei fod yn ddigon hyfyw i ddod yn Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed, sef sefydliad annibynnol y mae ganddo gysylltiadau agos ag ef o hyd.
  • Yn y 1970au a’r 80au roedd yn ddarlledwr rheolaidd ar y BBC (Radio 4, Radio Wales, World Service, y teledu) ac fe’i hystyrid (yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrtho!) fel un o’r 20 cyfathrebwr byd natur pennaf ym myd darlledu ar y pryd
  • Aelod o Bwyllgor RSPB Cymru
  • Aelod o Fwrdd Golygyddol Nature in Wales.

 

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 7 - Ynni Fforddiadwy a Glân
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd
  • NDC 15 - Bywyd ar y Tir

Safleoedd allanol

Honorary Senior Research Fellow, Prifysgol Caerdydd | Cardiff University

01 Ion 2011 → …

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Fred Slater ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg