Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Dr, BSc, MSc, PhD, CEcol, CEnv, FCIEEM(rtd), PGCEd
Aberystwyth University
Old College
King Street
Aberystwyth
Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Cyrsiau presennol: Mawn a Mawndiroedd yng Nghymru
Amffibiaid yn yr Amgylchedd
O 1970 gweithiai Fred Slater ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr hyn a elwid bryd hynny yn Adran Botaneg a Microbioleg lle bu’n ymchwilio i ecoleg arwyneb mawndiroedd canolbarth Cymru. Yn 1974 aeth dros Fynyddoedd y Cambria i ymgymryd â swydd Cyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Maes Llysdinam, sydd bellach yn rhan annatod o Ysgol Biowyddorau Caerdydd.
Dros y blynyddoedd mae ei ddiddordebau ymchwil wedi ehangu o fotaneg pur ei ddyddiau yn Aberystwyth, er ei fod wedi bod yn rhan o ddisgrifio’r unig rywogaeth wahanol o blanhigyn blodyn brodorol i’w hychwanegu at fflora Cymru a Lloegr yn yr ugeinfed ganrif, sef disgrifiad o uniad planhigyn newydd o byllau byrhoedlog yr ucheldiroedd, ac yn fwy diweddar ymchwil i gnydau biomas gan felly gadw ei gymwysterau botanegol.
Yn sgil rhywfaint o ymchwil oportiwnistaidd gynnar, gwelodd yn glir cyn lleied oedd yn hysbys am ddosbarthiad ac ecoleg amffibiaid a hynny wedi’i arwain, gyda nifer o gynorthwywyr ôl-raddedig ac ôl-ddoethurol, i archwilio’r llwybr hwn mewn sŵoleg gan gyfrannu’n sylweddol at y llenyddiaeth yn y maes hwn. Gan fod yr Afon Gwy yn llifo bron wrth garreg drws y Ganolfan Astudiaethau Maes, mae wedi ymchwilio cryn dipyn, gyda chymorth nifer o raddedigion ac ôl-ddoethurion, i “swyn” dau greadur yr afon – ill dau dan fygythiad ac yn warchodedig – sef y dyfrgi a chimwch crafanc gwyn yr afon. Mae ei ddiddordebau hefyd wedi amrywio o fywyd gwyllt yn cael eu hanafu ar y ffyrdd i asesiadau ar effaith amgylcheddol, o adfer cynefinoedd afonydd i ddolffiniaid Afon Indus ac o ecodwristiaeth i biohidlo.
Mae ei ddiddordebau ymchwil hefyd wedi cynnwys cynhyrchu a bioamrywiaeth helyg a glaswellt rhisomaidd lluosflwydd ar gyfer biomas; mwy o ecoleg amffibiaid, dyfrgwn a chimychiaid afon a gwrthdaro rhwng bioamrywiaeth ac ecodwristiaeth. Mae’n awdur tua 200 o adroddiadau a chyhoeddiadau yn bennaf am ecoleg canolbarth Cymru, gan gynnwys dau lyfr a phenodau mewn sawl llyfr arall. Yn y 1990au sefydlodd yr hyn sydd bellach yn “Brosiect Dyfrgwn Prifysgol Caerdydd” yn Llysdinam.
Ganed Fred Slater yn yr Ardal Ddu yng Nghanolbarth Lloegr, ond mae wedi byw a gweithio yng Nghymru ers dros 50 mlynedd. Ar ôl ennill ei BSc (Anrh) mewn Botaneg o Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, dychwelodd i Orllewin Canolbarth Lloegr i addysgu Bioleg yn Ysgol Ramadeg Darlaston fel yr oedd bryd hynny. Ar ôl ennill ei Dystysgrif Addysg i Raddedigion (Prifysgol Llundain) ar yr un pryd â’i radd MSc mewn Ecoleg Mawndiroedd (Prifysgol Cymru) dychwelodd i Aberystwyth fel Arddangoswr (Darlithydd Cynorthwyol) mewn Ecoleg yn yr Adran Botaneg a Microbioleg gan roi modd iddo astudio at ei ddoethuriaeth ar ecoleg Cors Fochno (y Borth) a mawndiroedd eraill Cymru.
Yn 1974 gadawodd Aberystwyth a chroesi Mynyddoedd Cambria i Bontnewydd-ar-Wy i fynd yn Gyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Maes Llysdinam a oedd newydd ei hagor, ac ym meddiant UWIST ar y pryd, ond yn sgil uno a newidiadau i enw’r sefydliad, mae bellach yn rhan o Ysgol Biowyddorau Caerdydd.
Er ei fod ar hyn o bryd yn Uwch-Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Ysgol y Biowyddorau, mae Fred Slater hefyd yn:
Mae wedi bod neu mae ar hyn o bryd yn:
Honorary Senior Research Fellow, Prifysgol Caerdydd
01 Ion 2011 → …
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Trafodion Cynhadledd (ISBN)