Gareth Evans

Dr, MA (Cymru), PhD (Aberystwyth), PGCTHE, FHEA

20072017

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Mae Gareth wedi dysgu yn yr Adran Astudiaethau, Theatr, Ffilm a Theledu ers mis Medi 2007, gan ddod yn aelod llawn-amser yn 2012. Yn yr un flwyddyn cwblhaodd ei ddoethuriaeth a oedd yn canolbwyntio ar gysyniad Hans-Thies Lehmann (1999, cyf. 2006) o'r theatr ôl-ddramataidd, a'i berthynas â datblygiad y theatr yn y Gymraeg, gan ganolbwyntio'n benodol ar waith cwmni Brith Gof a'u cydweithwyr, yn ogystal â thestunau perfformio'r llenor Aled Jones Williams.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu'n cynnal ei ymarfer perfformio fel aelod o'r grŵp random people.

Ar hyn o bryd, mae'n cwblhau monograff ar waith Aled Jones Williams, i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru.

Ers 2018, mae wedi bod yn adolygydd theatr ar gyfer The Guardian.

Diddordebau ymchwil

Theatr ôl-ddramataidd; perfformio cyfoes; theatr Gymraeg a pherfformio yng Nghymru; theatr gyfoes Ewropeaidd; gweithiau'r llenor Aled Jones Williams; theatr gerddorol ac opera cyfoes.

Cyfrifoldebau

Cydlynydd BA Drama and Theatre

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Gareth Evans ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg