Gwenllian Rees

Dr, BVSc (Hons) PhD MRCVS

20162024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Mae Gwen yn ddarlithydd mewn Gwyddor Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi symud yno yn ddiweddar ar ôl cyfnod fel Cydymaith Ymchwil Uwch yn yr Ysgol Filfeddygol , Prifysgol Bryste. Ar hyn o bryd mae’n arwain prosiect Arwain Vet DGC dros Prifysgol Aberystwyth, prosiect cydweithredol a ariennir gan Llywodraeth Cymru sydd yn hyfforddi a chefnogi rhwydwaith o Bencampwyr Rhagnodi Milfeddygol ar draws Cymru. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys gwartheg godro, ymwrthedd wrthficrobaidd, defnydd cyfrifol o wrthfiotegau mewn amaeth, ethnograffeg a meddygaeth ar sail tystiolaeth. Mae Gwen yn siarad Cymraeg, yn wreiddiol o Llanelli. Wedi cymhwyso fel milfeddyg o Brifysgol Lerpwl yn 2009, gweithiodd mewn practisau fferm a cheffylau yn Ne Cymru ac yn Seland Newydd. Ymgymrodd â rôl fel Cymrawd Dysgu mewn Meddygaeth Poblogaeth Anifeiliaid Fferm yn Ysgol Filfeddygol Bryste yn 2014, cyn mynd ymlaen i astudio am PhD yn ymchwilio i’r defnydd o feddyginiaeth milfeddygol prescripsiwn gan ffermwyr llaeth yn y DU.  Mae Gwen yn Gydymaith Golygyddol ac yn eistedd ar Fwrdd Golygyddol ar gyfer Veterinary Record Case Reports y BMJ, yn eistedd ar Gyngor Cangen Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), ac ar Grwp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a’r Amgylchedd Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn awdur ar brosiectau dysgu RCVS-Knowledge “Evidence-Based Veterinary Medicine (EBVM) Learning”.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Gwenllian Rees ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu