Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae gan Hefin gyswllt â Phrifysgol Aberystwyth ers cryn amser. Fe gafodd ei BSc mewn Gwyddor Anifeiliaid (llwybr anifeiliaid anwes), ei radd Meistr mewn systemau morol a dŵr croyw, ac mae wrthi'n gorffen ysgrifennu ei PhD.
Ac yntau'n dod o gefndir ffermio cymysg, mae gan Hefin ddiddordeb mewn iechyd, lles a maeth anifeiliaid ers amser hir. Daeth y diddordeb eang hwn yn fwyfwy amlwg o deitlau ei draethodau hir amrywiol. Canolbwyntiodd ei draethawd hir israddedig ar effeithiau solidau tawdd a maeth ar sut mae carpiaid coi Japaneaidd yn datblygu a thyfu. Yn ystod y cyfnod hwn, llwyddodd i gael cyllid drwy'r WAC ac Urdd Lifrai i deithio i Japan i barhau â'i astudiaethau ar ei draethawd hir. Roedd ei radd Meistr yn archwilio i sut y gellid defnyddio gwahanol farcwyr a seilir ar gloroffyl yn neietau ieir bwyta ac ieir dodwy er mwyn dod o hyd i unrhyw halogiad gan garthion ac er mwyn atal Campylobacter a Salmonela rhag mynd mewn i'r gadwyn fwyd.
Ar ôl ei gyfnod fel myfyriwr israddedig a Meistr, gweithiodd i'r brifysgol fel technegydd ymchwil ar y Prosiect Ŵyn Cynaliadwy a'r arbrofion LUKKA. Nod y Prosiect Ŵyn Cynaliadwy oedd gweld a fyddai'n bosib defnyddio genyn epiliogrwydd-uchel mewn brid penodol o ddafad er mwyn cynhyrchu ŵyn ar wahanol fathau o dir pori mewn ymgais i wella tiroedd pori, gan fanteisio ar dir y byddai'n cael ei weld yn "anghynhyrchiol" i ffermio a phesgi'r ŵyn ar diroedd mwy cynhyrchiol yn hytrach nag ar borthiant pesgi. Yn yr arbrofion LUKKA bu'n cynorthwyo â phrosiect a oedd yn defnyddio'r planhigyn bysedd y blaidd fel ffynhonnell bosib o brotein y gellid ei dyfu, yn lle soia, ar gyfer porthiant ŵyn.
Ar ôl cwblhau'r prosiectau hyn yn llwyddiannus, dychwelodd Hefin i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth fel myfyriwr PhD o dan oruchwyliaeth Jamie Newbold. Maes astudio ei PhD oedd archwilio i ddefnyddio ychwanegyn a seilir ar goriander i helpu i leihau allyriannau methan mewn cnofilod bach a mawr. Cafodd ei ariannu gan bartneriaid rhyngwladol megis Climate-KIC a South Pole Carbon yn ogystal ag IBERS. Drwy hyn roedd yn gallu gweithio ar faetheg, cynnal sawl arbrawf gydag anifailiaid in vivo, yn ogystal â dadansoddiadau moleciwlaidd drwy'r dulliau mwyaf diweddaraf o ddilyniannu.
Roedd ei PhD yn braenaru'r tir iddo gael ymgeisio am swydd yr uwch dechnegydd bioleg foleciwlaidd ar gyfer Prosiect Bwydydd y Dyfodol. Arhosodd yn y swydd honno nes symud i weithio yn y Ganolfan Filfeddygaeth.
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Trafodion Cynhadledd (ISBN)
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Trafodion Cynhadledd (ISBN)
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Trafodion Cynhadledd (ISBN)
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Trafodion Cynhadledd (ISBN)
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Doethurol › Doethur yn y Athroniaeth
Finlayson, C. (Arweinydd y Prosiect), Copner, N. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Gibson, A. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Hewinson, G. (Cyd‑arweinydd y Prosiect) & Jones, H. (Technician)
01 Chwef 2025 → 31 Ion 2027
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
Hewinson, G. (Arweinydd y Prosiect), Gibson, A. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Payne, S. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Healey, A. (Research and Innovation Associate), Hopkins, B. (Research and Innovation Associate), Parsons, K. (Research and Innovation Associate) & Jones, H. (Technician)
17 Rhag 2024 → 31 Maw 2027
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
Jones, H. (Arweinydd y Prosiect)
Joy Welch Educational Charitable Trust
01 Medi 2025 → 30 Tach 2025
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn fewnol
Hewinson, G. (Arweinydd y Prosiect), Hopkins, B. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Parsons, K. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Payne, S. (Cyd‑arweinydd y Prosiect) & Jones, H. (Technician)
Llywodraeth Cymru | Welsh Government
31 Gorff 2025 → 29 Gorff 2026
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
Sayce, J. (Arweinydd y Prosiect), Gibson, A. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Hewinson, G. (Cyd‑arweinydd y Prosiect), Sayce, J. (Project Manager) & Jones, H. (Technician)
Llywodraeth Cymru | Welsh Government
01 Ebr 2025 → 31 Maw 2026
Prosiect: Isadeiledd ac Offer