Helen Miles

Dr, BSc, PhD, SFHEA

20112024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Mae gwaith ymchwil Helen ym maes cyfrifiadura gweledol. Mae ganddi BSc (2010) a PhD (2014) mewn Cyfrifiadureg o Brifysgol Bangor. Symudodd i Aberystwyth yn 2014 i weithio fel PDRA, ac yn 2015, dechreuodd weithio fel darlithydd i'r adran. O 2019-23, odd hi'n arwain prosiect £2.4m CGE Cynhyrchu Cyfryngau Uwch i ddatblygu rhaglen hyfforddiant ol-raddedig, i cefnogi diwydiannau creadigol Cymru drwy hyfforddi gweithwyr proffesiynnol a graddedigion i fanteisio ar dechnolegau newydd ym maes cynhyrchu ar gyfer y cyfryngau. Cyrraeddodd y prosiect rhestr fer y 2021 Times Higher Education Awards am 'Menter Cyfnewid/Trosglwyddo Gwybodaeth y Flwyddyn'.

Ers 2016, mae Helen wedi bod yn rhan o dîm ExoMars Prifysgol Aberystwyth, gan efelychu delweddau o safbwynt yr offeryn PanCam dan arweiniad UCL/MSSL, a datblygu prosesau i gweithio gyda'r lluniau sy'n gael ei dynnu gan PanCam. Mae ei gwaith presennol yn canolbwyntio ar ymchwilio i agweddau ar ganfyddiad gweledol o fewn cadwyn prosesu delweddau PanCam, gan gynnwys cywasgu delweddau ac atgynhyrchu lliw. Yn fwyaf diweddar, mae Helen wedi cymryd rôl Arweinydd Meddalwedd Gweithrediadau ar gyfer yr offeryn Enfys newydd

Diddordebau ymchwil

  • Graffeg cyfrifiadurol
  • Amgylcheddau rhithwir a realiti rhithwir
  • Canfyddiad gweledol
  • Delweddu data
  • Ailadeiladu rhithwir
  • Rhyngweithio Dynol-Cyfrifiadurol

Cyfrifoldebau

  • Cydlynydd Cyflogadwyedd Cyfrifiadureg (2016-18)
  • Pennaeth Derbyniadau, Marchnata a Recriwtio Cyfrifiadureg (2017+)

Dysgu

Cymwysterau

  • 2017 FHEA
  • 2022 SFHEA

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Helen yn aelod o'r BCS, ac mae ar y pwyllgor BCS Canolbarth Cymru. O 2017-2020, Helen oedd cadeirydd y BCSWomen Lovelace Colloquium, cynhadledd blynyddol i ferched israddedig mewn cyfrifiadureg.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol
  • NDC 9 - Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Helen Miles ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu