Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Prof, BA (Hons), MLib, PhD, FRHistS, FHEA
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Rwy'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch ac yn arholwr allanol yn Birkbeck, Prifysgol Llundain (BA Film and Media) a Phrifysgol Lerpwl (BA Communication and Media). Rwyf wedi arholi oddeutu 20 traethawd hir PhD fel arholwr allanol mewn prifysgolion yn y DU, Sweden, ac Awstralia. Rwyf yn aelod o Bwyllgor Llywio rhwydwaith ymchwil hanes y cyfryngau, EMHIS (https://emhis.blogg.lu.se/). Adolygais bapurau i Contemporary Wales, Critical Studies in Television, Media History a Twentieth Century British History ynghyd â chynigion am lyfrau i Routledge, Sage Publications a Palgrave-Macmillan.
Yn enedigol o Bont-y-pwl, cefais fy nwyn fyny yng Nghasnewydd, de Cymru a mynychu Ysgol Gymraeg Casnewydd (1973-79) ac Ysgol Gyfun Rhydfelen (1979-86). I Aberystwyth wedyn i astudio ar gyfer gradd mewn Hanes a graddio ym 1989 cyn gwneud cwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth, eto yn Aberystwyth (ble arall?!).
Ers 1996, rwyf wedi bod yn Ddarlithydd (yna Uwch Darlithydd, Darllenydd, a nawr Athro'r Cyfryngau a Chyfathrebu) yn yr Adran a chyn hynny fe fûm yn Diwtor Astudiaethau Gwybodaeth yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (1993-96) yn dysgu ar wasanaethau a ffynonellau gwybodaeth i'r cyfryngau. Rwyf wedi ymgymryd â gwahanol swyddi gweinyddol a rheolaethol yn yr Adran/Prifysgol: Dirprwy Ddeon Cyfadran y Celfyddydau (2005-2008), Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (2007-2010) a Phennaeth Adran (Ionawr 2011 - Gorffennaf 2014, Awst 2018 - Ionawr 2019, ac Awst 2022 - Awst 2023). Rwyf yn briod ac mae gennym dri o blant (un wedi tyfu fyny a phriodi!). Y tu allan i'r gwaith rwyf yn mwynhau rygbi (gwylio yn hytrach na chwarae y dyddiau hyn!), pysgota, treulio amser gyda'r plant - ac chwarae'r organ a phregethu'n achlysurol yn Eglwys St Mair yn Aberystwyth. Treulir rhan o fis Rhagfyr mewn siwt coch a gwyn, 'sgidiau du, a barf gwyn ffals.
Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys hanes darlledu; polisi cyfryngol; archifau ffilm a chyfryngau; y cyfryngau a chymdeithas yng Nghymru; hanes ffilm ddogfen.
Rwyf yn gweithio ar nifer o lyfrau/prosiectau ar hyn o bryd:
Programmes, Protest, and Politics: broadcasting and society in Wales in the 1970s (llyfr i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2025))
Audiences, Identities, and the BBC in Wales, 1923-2023
Entangled Media Histories (Prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym mhrifysgolion Macquarie, Lund, a Hamburg)
Grantiau/Ysgoloriaethau Ymchwil:
Arolygu ac Arholi MPhil/PhD:
Arolygu
Huw Jones (PhD trwy gyhoeddiadau)
Lucy McFadzean (Ysgoloriaeth AHRC): ‘Community, politics and the economy in the cultural policies of the Greater London Council 1981-6.’
Gregor Cameron: ‘Re-performing Who: Tracing Theatre Technique Through Television Time’
Donald F. McLean (PhD trwy gyhoeddiadau): ‘Investigations into the emergence of British television, 1926-1936’
Dafydd Sills-Jones: ‘History Documentary on UK Terrestrial Television, 1982-2002.’
Rwyf wedi arholi nifer o draethodau ymchwil PhD yn y meysydd hyn, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, teledu Tsieiniaidd, radio lleol yn Lloegr, portreadau o Gymru mewn drama deledu ddogfennol a rhyngweithiol. Byddai gen i ddiddordeb i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno archwilio unrhyw agwedd ar hanes darlledu neu faterion cysylltiedig â darlledu a hunaniaeth genedlaethol.
Rwy'n dysgu hanes y cyfryngau, polisi cyfryngol, y cyfryngau a gwleidyddiaeth, a hanes ffilm ddogfen.
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Unigolyn: Doethur mewn Athroniaeth drwy Waith a Gyhoeddwyd
Unigolyn: Doethur mewn Athroniaeth
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cyhoeddiad ar y we/gwefan
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl adolygu › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cyhoeddiad ar y we/gwefan
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cyhoeddiad ar y we/gwefan
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr wedi'i golygu
Allbwn ymchwil: Ffurf annhestunol › Cyhoeddiad ar y we/gwefan
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gynhadledd › Papur › adolygiad gan gymheiriaid
01 Meh 2022 → 31 Gorff 2022
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
01 Hyd 2016 → 30 Medi 2019
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
Arts and Humanities Research Council
01 Chwef 2010 → 31 Ion 2012
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
27 Mai 2009 → 29 Mai 2009
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
20 Maw 2023
1 eitem o Sylw ar y cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Darllediadau'r cyfryngau
17 Maw 2023
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
13 Chwef 2023
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
20 Ion 2022
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
20 Ion 2022
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
04 Maw 2021
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
17 Tach 2020
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
27 Medi 2019
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
24 Ion 2016
1 Cyfraniad cyfryngau
Y Wasg / Cyfryngau: Cyfraniad y Cyfryngau
Jamie Medhurst (Siaradwr)
Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
Jamie Medhurst (Aelod o fwrdd golygyddol)
Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Gweithgarwch golygyddol
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o bwyllgor
Jamie Medhurst (Golygydd)
Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Gweithgarwch golygyddol
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o banel /goleg adolygu cymheiriaid
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o banel /goleg adolygu cymheiriaid
Jamie Medhurst (Adolygydd cymheiriaid)
Gweithgaredd: Cyhoeddiad adolygiad cymheiriaid a gwaith golygyddol › Adolygu cyhoeddiadau cymheiriaid
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelod o gymdeithas broffesiynol
Jamie Medhurst (Aelod)
Gweithgaredd: Aelodaeth › Aelodaeth o gweithgor neu banel