Proffil personol
Proffil
Dyddiad ymuno a swydd flaenorol
Dechreuodd Jenny fel Swyddog Datblygu Ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol ym mis Chwefror 2010 yn y Swyddfa Ymchwil, yr hyn a oedd bryd hynny. Ymunodd â YBA fel Rheolwr Datblygu Ymchwil yn 2014. Cyn ymuno â’r Brifysgol roedd Jenny yn Rheolwr Ymchwil yn y Sefydliad Iechyd Gwledig (IRH), wedi’i lleoli yn Neuadd Gregynog ym Mhowys. Fel rhan o'r rôl hon, treuliodd Jenny gyfnod hefyd yn gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Datblygu Ymchwil ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol
Yn y Sefydliad Iechyd Gwledig, Jenny oedd yn gyfrifol am y swyddogaeth ymchwil, gan gynnwys datblygu a gweithredu strategaeth ymchwil, ennill cyllid grant, rheoli grantiau ymchwil a rheoli’r tîm ymchwil.
Addysg a phrofiad gwaith
Mae gan Jenny BSc (Anrh) Daearyddiaeth (1993) a PhD mewn Daearyddiaeth Wledig (1998) o Brifysgol Coventry. Ar ôl ei PhD gweithiodd a hyfforddodd fel Dadansoddwr Iechyd Cyhoeddus ac yna Epidemiolegydd yn Awdurdod Iechyd Swydd Gaerwrangon gan ennill diploma ôl-raddedig mewn Iechyd Cyhoeddus ac Epidemioleg (1998, Prifysgol Birmingham). Yn dilyn hyn, symudodd i yrfa mewn rheoli ymchwil a datblygu ymchwil.
Profiad a gwybodaeth
Mae cefndir ymchwil Jenny (Daearyddiaeth ac iechyd gwledig) a'i phrofiad dilynol o ennill a rheoli arian grant yn rhoi profiad a gwybodaeth ymarferol iddi wrth gynghori a chefnogi Ymchwilwyr sy'n gwneud cais am grantiau ymchwil, yn enwedig yn y gwyddorau cymdeithasol. Mae arwain a rheoli swyddogaeth ymchwil IRH wedi rhoi profiad iddi mewn datblygu strategaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth ymchwil. Fel rhan o'i rôl yn IRH treuliodd Jenny gyfnod o amser yn darparu cymorth ymchwil i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan gynnwys eistedd ar eu Pwyllgor Llywodraethu Ymchwil. Rhoddodd ei rolau yn y sector iechyd ddealltwriaeth iddi, a diddordeb brwd mewn, moeseg ymchwil a llywodraethu a phrofiad o sut mae Paneli Moeseg Ymchwil a Phaneli Llywodraethu Ymchwil yn gweithio.
Prif gyfrifoldebau o fewn YBA
Mae Jenny yn rheoli’r swyddogaeth datblygu ymchwil, gan sicrhau gwasanaeth cyngor a chymorth dibynadwy, rhagweithiol a phroffesiynol sy’n ymwneud â cheisiadau am grantiau ymchwil a’r adolygiad moesegol o ymchwil. Mae Jenny yn gweithio gyda’r Deoniaid Cyswllt ar gyfer Ymchwil ar weithgarwch datblygu ymchwil i wella’r ymateb i gyfleoedd ymchwil a chyllid, ac yn fwy cyffredinol y diwylliant ymchwil o fewn y Brifysgol. Mae'n darparu cymorth datblygu ymchwil i'r Gwyddorau Cymdeithasol ac mae'n gyfrifol am Foeseg Ymchwil a Gwasanaethau cefnogi uniondeb.
Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth
Mae Jenny yn mwynhau gweithio mewn tîm, yn enwedig gweithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr, darganfod mwy am eu diddordebau ymchwil a chwarae rhan gefnogol wrth droi syniadau yn brosiectau a ariennir.
Gwybodaeth ychwanegol
- Rheoli'r swyddogaeth datblygu ymchwil yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi
- Sicrhau gwasanaeth dibynadwy a rhagweithiol ar gyfer darparu cyngor a chymorth o safbwynt ceisiadau am grantiau ymchwil, gan gynnwys canfod a hyrwyddo cyfleoedd, dehongli canllawiau'r cyllidwyr, sicrhau bod ceisiadau'n cael eu costio'n briodol, a darparu cyngor ar sut i ddatblygu cynigion a'r broses gyflwyno
- Gweithio gyda'r Cyfarwyddwyr Ymchwil ar weithgarwch datblygu ymchwil i wella'r ymateb i gyfleoedd ymchwil a chyllido, a diwylliant ymchwil y Brifysgol yn fwy cyffredinol
- Darparu cymorth datblygu ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol
- Yn gyfrifol am wasanaethau cefnogi Moeseg Ymchwil ac Uniondeb
- Yn gyfrifol am y gwasanaethau cymorth ar gyfer y Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfaol Ymchwilwyr
Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
-
NDC 3 Iechyd a Llesiant Da
-
NDC 4 Addysg o Ansawdd
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg
Allbwn ymchwil
- 2 Erthygl
-
Overcoming the pull factor of convenient urban living: Perceptions of rural general practice placements
Deaville, J. & Grant, A., 01 Ebr 2011, Yn: Medical Teacher. 33, 4, t. e211-e217Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agored12 Dyfyniadau (Scopus) -
Perceptions of UK medical students on rural clinical placements
Deaville, J., Wynn-Jones, J., Hays, R. B., Coventry, P. J., McKinley, R. K. & Randall-Smith, J., 02 Meh 2009, Yn: Rural and Remote Health. 9, 2, 1165.Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Mynediad agored27 Dyfyniadau (Scopus)
Prosiectau
- 2 Wedi Gorffen
-
ESRC Transforming Social Science Institutional Prize
Deaville, J. (Arweinydd y Prosiect)
Economic and Social Research Council
01 Medi 2013 → 31 Gorff 2020
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol
-
ESRC FESTIVAL OF SOCIAL SCIENCE, NEGOTIATING CLIMATE CHANGE
Deaville, J. (Arweinydd y Prosiect)
Economic and Social Research Council
03 Tach 2012 → 10 Tach 2012
Prosiect: Ymchwil a ariannwyd yn allanol