Jonathan Fry

BA (Hons) Events Management, PgC Applied Social Research, MPhil, PGCE PCET, PGCTHE, FHEA

Cyfrifwyd yn seiliedig ar nifer y cyhoeddiadau sydd wedi eu storio yn Pure a dyfyniadau o Scpous
20182022

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Os gwnaethoch unrhyw newidiadau yn Pure byddwch yn gallu eu gweld yn y fan yma cyn hir.

Proffil personol

Diddordebau ymchwil

Rheoli Digwyddiadau

Gwerthuso Digwyddiadau

Cwsmeriaid Digwyddiadau

Technoleg Digwyddiadau

Marchnata Digidol

Marchnata

Entrepreneuriaeth

Proffil

Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Jonathan yn gyn-fyfyriwr o Brifysgol Metropolitan Caerdydd, wedi graddio gyda BA (Anrh) mewn Rheoli Digwyddiadau (2010), PgC Ymchwil Cymdeithasol (2014), MPhil (2014) a PGCE PcET (2018). Yn 2012, lansiodd ei gwmni gwerthuso digwyddiadau o'r enw Event Rater Cyf. Ennillodd y cwmni wobr 'Cwmni Digidol Gorau' (Rhanbarth Cymru a De Lloegr) yng nghystadleuaeth Banc Lloyds yn 2014.

Y tu allan i fyd gwaith, prif ddiddordebau Jonathan yw dilyn tim rygbi Gleision Caerdydd a thim cenedlaethol Cymru, yn ogystal a digwyddiadau a gwyliau comedi. Ei hoff ddigrifwyr yw Lee Evans, Rob Brydon, Lee Mack, Aisling Bea, Sean Lock a Rhod Gilbert.

Mae Jonathan yn gwneud ymchwil doethuriaeth o fewn yr adran sydd yn archwilio ystyriaethau ymddygiad defnyddwyr a phrisio ynglyn a prynu tocynnau digwyddiadau VIP a wynebwerth. 

Mae Jonathan yn Reolwr Golygyddol ar gyfer y cyfnodolyn 'International Journal of Hospitality and Event Management' (IJHEM): https://www.inderscience.com/jhome.php?jcode=ijhem#edboard-content

Cyfrifoldebau

Ysgol Fusnes:

Cyfarwyddwr Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg 

Cynrychiolydd Adrannol ar y Panel Busnes, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Cyswllt Ysgolion (cyfrwng Cymraeg)

Cydlynydd Wythnos Ymgartrefu

Hyrwyddwr Menter Academaidd (ACE)

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 12 - Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Jonathan Fry ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg