Gweithgareddau fesul blwyddyn
Proffil personol
Proffil
Ar ôl ennill gradd BA yn y Gymraeg o Brifysgol Caerdydd aeth Mandi Morse ymlaen i hyfforddi'n athrawes Gymraeg, a bu'n dysgu Cymraeg a Drama mewn nifer o ysgolion cyn ymuno â'r Llywodraeth yn 2002 i weithio ym maes cyfieithu a golygu. Bu'n Rheolwr Golygyddol yn yr Adran Cwricwlwm ac Asesu am nifer o flynyddoedd. Fel cyfieithydd llawrydd, mae Mandi hefyd wedi cyfieithu ac addasu llyfrau i blant ac oedolion. Yn ychwanegol, treuliodd gyfnod yn datblygu, comisiynu a golygu adnoddau cenedlaethol Cymraeg i Oedolion gyda CBAC.
Yn fwy diweddar, bu'n Ddarlithydd Cymraeg yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe, yn cydlynu a dysgu modiwlau cyfieithu a meistroli sgiliau iaith ar lefel israddedig ac uwchraddedig.
Gwybodaeth ychwanegol
Diddordebau pellach: dwyieithrwydd, cynllunio ieithyddol a Chymraeg i Oedolion.
Dysgu
Cyfieithu a sgiliau iaith
Gweithgareddau
- 1 Cynhadledd
-
Postgraduate Colloqium on Translation Studies
Morse, M. (Cyfranogwr)
11 Chwef 2017Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cynhadledd