Manod Williams

BSc Agriculture with Animal Science (AU), MSc Livestock Science (AU), PhD Precision Livestock Farming (AU), PGCTHE (AU), Dr

20122023

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Diddordebau ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil ym maes technegau Ffermio Da Byw Manwl-gywir (FfDBMG) i gynorthwyo ffermwyr i reoli eu da byw. Mae FfDBMG eisoes yn cyfrannu at reoli da byw ar lefel fferm, gan ganiatáu i ffermwyr, ymarferwyr milfeddygol ac eraill sy'n gysylltiedig gael mwy o wybodaeth ar sut mae eu hanifeiliaid yn ymddwyn ac yn perfformio. Gyda'r wybodaeth hon, efallai y bydd modd nodi materion yn gynharach, gan gynnwys materion sy'n arwain at berfformiad a lles gwael.

Proffil

Graddiais gyda BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth yn 2012. Yna bues yn ffodus i ennill ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (CCC) i astudio ar gyfer MSc mewn Gwyddor Da Byw (a gwblhawyd yn 2014) ac yna PhD yn y gwyddorau da byw eto yn IBERS (cwblhawyd 2019). Canolbwyntiodd fy PhD ar ddatblygu technegau i nodi ymddygiad gwartheg godro ar dir pori yn awtomatig gan ddefnyddio synwyryddion arwahanol, yn y pen draw i gefnogi ffermwyr fel offeryn rheoli. Fel rhan o ysgoloriaeth y CCC, roeddwn yn ymwneud â datblygu darpariaeth addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes Systemau Cynhyrchu Da Byw. Ar hyn o bryd rwy'n addysgu Systemau Cynhyrchu Da Byw i bob blwyddyn israddedig FdSc a BSc yn ogystal â myfyrwyr MSc. Rwyf hefyd yn cyfrannu at sawl modiwl arall gan gynnwys Maeth Da Byw, Adolygiad Critigol a Dulliau Ymchwil.

Cyfrifoldebau

Rwy'n cydlynu ac yn dysgu ar sawl modiwl israddedig ac ôl-raddedig gyda ffocws ar Systemau Cynhyrchu Da Byw yn yr Adran Gwyddorau Bywyd. Rwy'n diwtor derbyniadau ar gyfer cynlluniau-D yr adran ac rwyf hefyd yn cydlynu Cynllun Cymheiriaid yr Adran Gwyddorau Bywyd.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 15 - Bywyd ar y Tir

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Manod Williams ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu