Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
BA Daearyddiaeth Prifysgol Lerpwl MA Daearyddiaeth a Datbygiad Prifysgol Llundain TAR Uwchradd Prifysgol Cymru Aberystwyth
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Hanes a Daearyddiaeth
Wedi derbyn gradd MA mewn Daearyddiaeth a Datblygiad Economaidd o Brifysgol Llundain treuliodd Manon gyfnod yn teithio a gweithio yn y diwydiant lletygarwch cyn cwblhau cwrs TAR Uwchradd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu'n gweithio fel athrawes mewn Ysgol Uwchradd ddwyieithog am 13 mlynedd gan ymgymryd a amrywiaeth o gyfrifoldebau gan gynnwys Pennaeth Cyfadran, Pennaeth Blwyddyn a Phennaeth Cynorthwyol. Mae Manon wedi gweithio am flynyddoedd fel arholwr TGAU i CBAC ac roedd yn arweinydd cynllun Asesiad Athrawon CA3. Roedd yn aelod o’r gweithgor oedd yn gyfrifol am lunio canllawiau y Cwricwlwm Cenedlaethol 2008. Mae ganddi ddiddordeb yn datblygu adnoddau dysgu blaengar a roedd yn gyd-awdures ar lyfr i ddatblygu sgiliau meddwl.
Fe ddaeth Manon yn Diwtor TAR Hanes a Daearyddiaeth Ym mhrifysgol Aberystwyth yn 2013. Mae bellach yn gyfrifol am gyflwyno’r ddarpariaeth ar gyfer Maes Dysgu a phrofiad y Dyniaethau. Yn ogystal a hyn mae’n arwain ar y Modiwl Gwerthuso Dysgu a Sgiliau.
Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Adroddiad wedi'i gomisiynu