Martine Robson

Dr, BA English and French BSc (Honours) Psychology PGCTHE Fellow of the Higher Education Academy PhD psychology

20182024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Graddiodd Martine o Aberystwyth yn 2012 gyda gradd Dosbarth 1af mewn Seicoleg. Dyfarnwyd ei PhD yn 2017. Dyfarnwyd iddi ragoriaeth yn ei Thystysgrif Uwchraddedig mewn Addysg Uwch yn 2015.

Diddordebau ymchwil

Sut y mae cyplau'n rheoli newidiadau i'w ffordd o fyw ar ôl diagnosis o glefyd coronaidd y galon.

Clefyd coronaidd y galon (CCG) yw'r prif achos marwolaeth yn fyd-eang (Sefydliad Iechyd y Byd, 2014). Yn gyffredinol, mae pobl mewn perthynas tymor-hir yn cael llai o drawiadau ar y galon a llawdriniaethau cardiaidd na phobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain, ac maent yn gwella'n gyflymach (Idler, Boulifard a Contrada, 2012). Mae newidiadau ymddygiadol sy'n ymwneud â diet, ymarfer corff ac ysmygu yn gysylltiedig â gwell canlyniadau iechyd ymhlith cleifion CCG, ac mae pobl mewn perthynas tymor hir yn fwy tebygol o wneud newidiadau o'r fath. Ond nid yw'r manteision hyn yn gyffredin i bawb. Mae'n bosib bod gweithgareddau iechyd dydd i ddydd y cyplau yn esbonio rhywfaint o gymhlethdod y berthynas hon rhwng iechyd/afiechyd (Lewis a Butterfield, 2007), er nad ydym yn deall y prosesau hyn yn dda iawn. Mae fy PhD yn edrych ar sut y mae cyplau yn trafod ac yn rheoli newidiadau i'w ffordd o fyw aargymhellir ar ôl i un partner gael diagnosis CCG. Cafodd y cyplau, a recriwtiwyd o fewn pythefnos i gael diagnosis, eu cyfweld unwaith y mis am dri mis yn ystod eu cyfnod ymadfer. O safbwynt iechyd, rwy'n edrych ar sut mae cyplau'n ymdrin â chyngor a gwybodaeth am eu ffordd o fyw yng nghyd-destun dealltwriaethau neoryddfrydol o iechyd. Gan ddefnyddio dull ymresymiadol, rwy'n nodi'r ffyrdd y mae cyplau yn mabwysiadu, yn gwrthwynebu, ac yn gweddnewid trafodaethau cymdeithasol ehangach am iechyd, a deinameg a'r cymhlethdodau ynghlwm wrth roi a derbyn cyngor iechyd o fewn perthynas agos.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 3 - Iechyd a Llesiant Da
  • NDC 5 - Cydraddoldeb Rhywiol

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Martine Robson ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu
  • Best academic monograph

    Riley, S. (Derbynydd), Evans, A. (Derbynydd) & Robson, M. (Derbynydd), 18 Ion 2022

    Gwobr: Gwobr (gan gynnwys medalau a gwobrau)