Proffil personol
Cyfrifoldebau
- Deputy BSc Scheme Coordinator
- Clinical Lead - Skills
- LGBTQ+ Lead
Dysgu
- NU10120: Introduction to Professional Practice
- NU10460: Demonstrating Professional Practice
- NU10220: Developing Professional Practice
- NU10320: Understanding the Human Body
Gwybodaeth ychwanegol
CYNADLEDDAU/SEMINARAU
Mae Matt wedi siarad mewn sawl cynhadledd fel prif siaradwr gwadd ym meysydd arbenigedd ei ymchwil ac mae'n croesawu gwahoddiadau i siarad yn unol â'i ddiddordebau ymchwil a chyhoeddi
Proffil
Mae Matt Townsend yn Ddarlithydd Nyrsio Maes Oedolion sy'n cyfrannu at bob un o raglenni astudio yr Adran Addysg Gofal Iechyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae gan Matt brofiad helaeth o weithio mewn prifysgol a, chyn ei hyfforddiant nyrsio, bu'n Ddarlithydd Cyswllt mewn Astudiaethau Ffrangeg ym Mhrifysgol Caerdydd a Darlithydd Gwadd ym Mhrifysgol Abertawe.
Meysydd arbenigedd clinigol Matt yw: llawfeddygaeth frys; nyrsio gofal critigol (gofal dwys); a nyrsio colorectol. Fel academydd clinigol, mae Matt yn ymchwilydd brwd ac mae wedi cyhoeddi erthyglau a adolygwyd yn ddall gan gymheiriaid ar Ganser y Coluddyn a Hyrwyddo Iechyd Cyhoeddus; Marwolaeth a Marw; a Covid -19 a darpariaeth addysg myfyrwyr nyrsio yn ystod y pandemig.
Yn ystod Covid -19, gwahoddwyd Matt i eistedd ar bwyllgor llywio ar gyfer astudiaeth ymchwil ansoddol a ariannwyd gan UKRI ac a gynhaliwyd ar y cyd rhwng Prifysgol Brookes Rhydychen a Phrifysgol Caerdydd. Gwaith y pwyllgor oedd arfarnu'n feirniadol barodrwydd Sefydliadau Addysg Cymeradwy ar gyfer addysg nyrsio yn ystod Covid -19. Yn ystod ei gyfnod ar y pwyllgor fel cynrychiolydd Cymru, darparodd Matt gyngor ac ymgynghoriad arbenigol ar gyfeiriad yr astudiaeth a lledaeniad canfyddiadau'r ymchwil.
Mae Matt, sy'n academydd hoyw agored, hefyd wedi hyrwyddo ac ar hyn o bryd yn arwain cynllun peilot Cymru gyfan sy'n ceisio sicrhau bod darpariaeth addysg nyrsio bresennol yn blaenoriaethu cymhwysedd diwylliannol a hyfforddiant cytgord wrth ofalu am gleifion a defnyddwyr gwasanaeth LHDTC+. Gyda dim ond llond llaw o sefydliadau dros y Deyrnas Unedig yn cynnig hyfforddiant o'r fath fel rhan o'u cwricwla dangosol, mae Matt yn sicrhau bod Prifysgol Aberystwyth yn sefydlu ei hun fel sefydliad blaenllaw a chanolfan ragoriaeth ar gyfer gwelededd a chynhwysiant LHDTC+ mewn rhaglenni addysg gofal iechyd.
Diddordebau ymchwil
Diddordebau Ymchwil:
- Marwolaeth a marw
- Gofal diwedd oes
- Myfyrdod fel cyfrwng ar gyfer rhagoriaeth glinigol
- Gwelededd a chynhwysiant LHDTC+ mewn gofal iechyd
- Ymarfer nyrsio trawsddiwylliannol
- Methodoleg newid a gwella ansawdd mewn gofal iechyd
Mae Matt yn croesawu datganiadau o ddiddordeb ar gyfer prosiectau ymchwil / cyhoeddi cydweithredol.
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg