Mererid Hopwood

Prof, BA Cydanrhydedd (Prifysgol Cymru, Aberystwyth), PhD (Coleg y Brifysgol, Llundain),

1997 …2024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Daeth yr Athro Mererid Hopwood i Gadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021. Cyn hynny, bu’n Athro Ieithoedd a’r Cwricwlwm Cymreig ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae wedi treulio ei gyrfa ym myd ieithoedd, llenyddiaeth, addysg a’r celfyddydau. Enillodd Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016 am ei chasgliad o gerddi, Nes Draw. Bu’n fardd plant Cymru ac enillodd wobr Tir na n’Og 2018 am ysgrifennu i blant. Yn 2023 cafodd Fedal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli. Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America. Cyfieithodd nifer o weithiau llenyddol i’r Gymraeg gan gynnwys dramâu o’r Sbaeneg a’r Almaeneg ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru. Mae’n Gymrawd y Gymdeithas Ddysgedig, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Academi Gymreig, yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Waldo Williams. Hi yw ysgrifennydd Academi Heddwch Cymru.

Cyfrifoldebau

Cyfarwyddwr Ymchwil yr Adran

Dysgu

Eleni byddaf yn cyfrannu at fodiwlau: 

Cymraeg i Ddechreuwyr a Chymraeg Ail Iaith

Llenyddiaeth

Ysgrifennu Creadigol

M.A. Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol

Diddordebau ymchwil

Ymchwil

Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yw fy mhrif ddiddordeb ymchwil diweddar gyda sylw arbennig i farddoniaeth; cyfieithu llenyddiaeth; llenyddiaeth plant; llenyddiaeth heddwch; a datblygu cwricwlwm ac addysgeg iaith.

Gwybodaeth ychwanegol

Gwybodaeth ychwanegol

Ers fy nyddiau fel myfyrwraig yn Aberystwyth yng nghanol yr 1980au rwyf wedi manteisio ar bob math o gyfleoedd i ddatblygu fy nealltwriaeth am iaith a llenyddiaeth Cymru a rhai o wledydd eraill Ewrop, gan feithrin diddordeb arbennig mewn ysgrifennu a chyfieithu. Cefais gyfle i fyw yn yr Almaen a Sbaen a chyfle hefyd i deithio i lefydd mor amrywiol â Chile a Tymbl, Awstria ac Abertawe, ac o Leipzig i Langollen a Ledbury i ddarllen cerddi a thrafod llenyddiaeth. Ac eleni, er y bydd llawer o’r teithio’n rhithiol, fel Cymrawd Rhyngwladol Gŵyl y Gelli, rwy’n edrych ymlaen at gyfle i ddod i ddysgu mwy am ddiwylliannau gwledydd fel Colombia, Mecsico a Pheriw.

Rwy’n mwynhau cydweithio gydag eraill i gyfuno ffurfiau creadigol. Ymhlith y math hwn o waith mae’r Cantata Memoria, Er Cof am y Plant gyda Karl Jenkins, Hwn yw Fy Mrawd gyda Robat Arwyn a’r opera Wythnos yng Nghymru Fydd gyda Gareth Glyn. O ran dawns wedyn, dros y Cyfnodau Clo diweddar, rwyf wedi dysgu llawer drwy’r prosiect Plethu i greu darnau fel Aber Bach a Hirddydd ar y cyd â Chwmni Dawns Cymru.

Rwy’n aelod o bwyllgor gwaith Barddas, bwrdd golygyddol Y Traethodydd,  bwrdd ymddiriedolwyr Canolfan Mileniwm Cymru a bwrdd academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Rwyf hefyd yn aelod cysgodol o bwyllgor gwaith Cymdeithas y Cymod ac yn Is-Lywydd y Movement for the Abolition of War

 

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Mererid Hopwood ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu