Proffil personol
Proffil
Ar ôl cwblhau FDSc a BSc mewn Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth es ymlaen i ennill MSc mewn Gwyddor Da Byw. Mae fy ymchwil wedi canolbwyntio’n bennaf ar gynhyrchiant da byw gan edrych ar iechyd a chynhyrchiant mewn gwartheg godro a’r rôl sydd gan faeth o fewn hynny. Yn dilyn ymlaen o hyn bûm yn gweithio fel maethegydd llaeth i gwmni porthiant enwog ac yna symudais i weithio fel Swyddog Ymchwil a Datblygu i fwrdd ardoll cig coch Cymru, Hybu Cig Cymru. Rwyf nawr yn darlithio ar y modiwlau amaeth-fusnes a sgiliau amaeth. Rwyf hefyd yn cwblhau PhD yn edrych ar gyflwr meincnodi ar ffermydd da byw Cymru. Yn fy amser sbâr rwy'n helpu fy ngŵr gartref ar ein fferm laeth, bîff a defaid ac dwi'n mwynhau nofio, seiclo ac rhedeg.
Diddordebau ymchwil
https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/news-and-events/technical-articles/importance-calf-pre-weaning-nutrition
Herschell-Kelly, E., Williams, D., Davies, N. and Hodgkinson, J., 2021. 177 Efficacy of closantel against a Fasciola hepatica isolate from sheep and its in vitro sensitivity to albendazole. Animal-science proceedings, 12(1), p.147.
Williams, E.G., Brophy, P.M., Williams, H.W., Davies, N. and Jones, R.A., 2021. Gastrointestinal nematode control practices in ewes: identification of factors associated with application of control methods known to influence anthelmintic resistance development. Veterinary Parasitology: Regional Studies and Reports, 24, p.100562.
Ôl bys
- 1 Proffiliau Tebyg