Paul O'Leary

Dr

1985 …2023

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Athro Syr John Williams yn Hanes Cymru yw Paul O'Leary BA, PhD (Cymru) ac yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru a'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol. Mae'n arbenigo yn hanes Cymru yn y 19eg ganrif, ac yn neilltuol ar fudo'r Gwyddelod, hanes trefol, y cysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon ac hefyd rhwng Cymru a Ffrainc. Ysgrifennodd hefyd ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ef yw awdur Claiming the Streets: Processions and Urban Culture in South Wales, c.1830-1880 (2012), Immigration and Integration: the Irish in Wales, 1798-1922 (2000), Ffrainc a Chymru, 1830-1880: Dehongliadau Ffrengig o Genedl Ddi-wladwriaeth (2015), cyd-awdur Wales One Hundred Years Ago (1999), cyd-olygydd (gyda Neil Evans a Charlotte Williams), A Tolerant Nation? Exploring Ethnic Diversity in Wales (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), cyd-awdur gyda Neil Evans a Charlotte Williams, 'Race, Nation and Globalization' yn Paul O'Leary, Neil Evans a Charlotte Williams (goln), A Tolerant Nation? Exploring Ethnic Diversity in Wales (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), cyd-awdur gyda Neil Evans, 'Playing the Game: Sport and Ethnic Minorities in Modern Wales' yn Paul O'Leary, Neil Evans a Charlotte Williams (goln), A Tolerant Nation? Exploring Ethnic Diversity in Wales (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 2003), golygydd Irish Migrants in Modern Wales (Lerpwl, Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2004) a chyn-olygyddd Llafur, the Journal of the Society for Welsh Labour History (1994-2000). Ef yw cyd-olygydd Cylchgrawn Hanes Cymru.

Dysgu

Mae Yr Athro O'Leary yn dysgu'n eang, o fodiwlau craidd Hanes Cymru yn y Flwyddyn Gyntaf hyd at gyrsiau Meistr a goruchwylio traethodau PhD, gan gynnwys Traethodau Estynedig a Phwnc Arbenigol ar y Gwyddelod ym Mhrydain.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 10 - Llai o Anghydraddoldeb
  • NDC 16 - Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Paul O'Leary ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu