Phillipp Schofield

Prof, BA (London) DPhil (Oxon)

  • Aberystwyth University
    Hugh Owen Building
    Penglais
    Aberystwyth

    Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

1994 …2024

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Graddiodd Phillipp Schofield yn UCL yn 1986 mewn hanes yr hen fyd a hanes canoloesol, cyn cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Rhydychen (Wadham) yn 1992, dan arolygaeth Miss Barbara Harvey. Hyfforddodd hefyd fel cyfreithiwr gan weithio am ychydig amser i gwmni cyfreithiol yn y Ddinas cyn dychwelyd i Rydychen yn 1993 i swydd ymchwil yn y Wellcome Unit for the History of Medicine. Symudodd i Brifysgol Caergrawnt a'r Cambridge Group for the History of Population and Social Structure yn 1996 cyn cychwyn ar ei swydd yn Aberystwyth yn 1998. Bu'n Bennaeth yr Adran yn Aberystwyth rhwng 2002 a 2012 ac ar hyn o bryd mae ganddo Brif Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme.

Dysgu

Mae'r Athro Schofield yn dysgu hanes cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y Canol Oesoedd. Mae ganddo fodiwlau, er enghraifft, ar y Pla Du yn Lloegr y Canol Oesoedd, Cymuned a Hunaniaeth yn y Canol Oesoedd, a theyrnasiad Edward II. Dysga hefyd ar lefel Meistr ar y werin Saesneg ganoloesol ac mae wedi goruchwylio gwaith ymchwil ar bynciau megis cymdeithas Cymru a'r Mers yn y Canol Oesoedd, economi Lloegr wledig ddiwedd y Canol Oesoedd a llythrennedd pragmatig. Arbeniga ar economi a chymdeithas wledig Lloegr yn y Canol Oesoedd ac mae'n awyddus i arolygu graddau uwchraddedig yn y maes hwn.

Diddordebau ymchwil

Ar hyn o bryd mae Phillipp Schofield yn gweithio ar y Newyn Mawr yn Lloegr ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg fel rhan o Gymrodoriaeth Ymchwil Leverhulme.

Fel hanesydd economi Lloegr yn y Canol Oesoedd, gyda phwyslais penodol ar werin y cyfnod, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y gymdeithas bentrefol a'r economi o'i mewn gan gynnwys credyd a dyled. Mae ef hefyd yn cwblhau ymchwil ar gyfreithia yn y llysoedd maenorol a gyllidwyd gan yr AHRC (AHRC AH/D502713/1, co-I) ac ar seliau yng Nghymru'r Canol Oesoedd. Ar y gweill hefyd mae cyfrol ar Peasants and Historians: the historiography of the medieval English peasantry, i'w chyhoeddi gan Wasg Prifysgol Manceinion. Mae Phillipp Schofield hefyd yn gydolygydd yr Economic History Review.

Am fanylion pellach, gweler Phillipp R Schofield (0000-0003-0278-0509) - ORCID)

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 2 - Dim Newyn
  • NDC 8 - Gwaith Teilwng a Thwf Economaidd

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Phillipp Schofield ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu