Rhodri Evans

BScEcon (Aberystwyth), MA (Aberystwyth), PhD (Aberystwyth), AFHEA, Dr

20212022

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Rhodri Aled Evans ydw i, ac rydw i'n ddaearyddwr dynol hanesyddol sydd wedi darganfod cartref o fewn i'r Ysgol Addysg. Rwy'n ymddiddori mewn materion sydd ynghlwm ag hunaniaeth, gwleidyddiaeth genedlaetholgar, radicaliaeth myfyrwyr, hanes Cymru a'r gwledig. Graddiais gyda BScEcon mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth yn 2015, cyn ymgymryd ag MA mewn Hanes Cymru yn Aberystwyth a ganolbwyntiodd ar brotestiadau 'Rhyfel y Degwm' yn ystod yr 1890au. Yna ymchwiliais i gymdeithas myfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a'i rôl wrth ddatblygu ymlyniad wrth hunaniaeth genedlaethol Gymreig yn ystod y 1960au. Ar ôl cwblhau fy PhD, symudais i'r Ysgol Addysg yn 2021.

Cyfrifoldebau

Rwyf yn gyfrifol am gydlynu cyfleoedd ein myfyrwyr adrannol i astudio dramor.

Diddordebau ymchwil

Yn gyntaf, mae gen i ddiddordeb mewn materion yn ymwneud â ffurfiant hunaniaeth genedlaethol o fewn cymdeithas, a'r modd y mae gwahanol ffurf ar hunaniaeth yn cael eu mynegi a'u meithrin. Yn ail, rwy'n ymddiddori mewn cyfranogiad ymylol mewn cymdeithas sifil, gan gynnwys gweithredoedd y gellir eu hystyried yn 'radical'. Yn ogystal, mae materion ynglwm a'r gwledig, a'u heffaith ar ddarpariaeth addysgol, a chyfleoedd, yn cynrychioli diddordeb sy'n datblygu.

Arbenigedd sy’n gysylltiedig â NDC y CU

Yn 2015, cytunodd gwladwriaethau sy’n aelodau'r Cenhedloedd Unedig ar 17 o Nodau Datblygu Cynaliadwy (NDC) byd-eang i ddod â thlodi i ben, diogelu’r blaned a sicrhau ffyniant i bawb. Mae gwaith y person hwn yn cyfrannu at y NDC canlynol:

  • NDC 4 - Addysg o Ansawdd

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Rhodri Evans ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg

Cydweithrediadau a’r prif feysydd ymchwil yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf

Cydweithrediad allanol yn ddiweddar ar lefel gwlad/tiriogaeth. Plymiwch i mewn i'r manylion drwy glicio ar y dotiau neu