Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn Ymchwil fesul blwyddyn
Allbwn ymchwil fesul blwyddyn
Mae Rhun Emlyn BA, MA, PhD (Cymru) yn Darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Hanes yn yr adran. Mae yn hanesydd yr Oesodd Canol, gyda diddordebau ymchwil arbennig mewn hanes eglwysig a gwleidyddol, yn ogystal â hanes Cymru. Canolbwyntia ei waith ar hyn o bryd ar fyfyrwyr canoloesol Cymreig, eu gyrfaoedd a'u dylanwad ar gymdeithas Ewrop a Chymru.
Dysg Rhun Emlyn fodiwlau ar hanes Cymru a hanes yr Oesoedd Canol, gan gynnwys:
Mae gan Rhun Emlyn ddiddordebau ymchwil mewn agweddau o hanes Cymru a hanes ehangach Ewrop yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig hanes eglwysig a gwleidyddol. Mae'r rhain yn cynnwys astudio'r ymdeimlad o hunaniaeth yng Nghymru, y cyfleoedd gyrfa oedd ar gael a'r cysylltiadau a fodolai ar draws Ewrop trwy'r eglwys. Diddordeb arbennig sydd ganddo yw perthynas yr eglwys a gwleidyddiaeth a sut effeithiai hyn ar sefyllfa Cymru erbyn yr Oesoedd Canol diweddar. Derbyniodd Rhun Emlyn ysgoloriaeth dysgu cyfrwng Cymraeg er mwyn gwneud ymchwil uwchraddedig i'r meysydd hyn, ac mae'n cwblhau doethuriaeth yn yr adran ar hyn o bryd. Pwrpas y doethuriaeth yw astudio myfyrwyr canoloesol Cymreig gyda'r pwyslais ar ddarganfod y myfyrwyr hyn ym mhrifysgolion Lloegr a chyfandir Ewrop a gweld y gyrfaoedd a ddilynwyd ganddynt yn dilyn eu cyfnod mewn addysg; arwain hyn at ystyried nifer o feysydd megis addysg, bywyd eglwysig a gwleidyddiaeth. Bwriad yr ymchwil yw arwain at ddealltwriaeth pellach o berthynas Cymru gyda'r prifysgolion, pwysigrwydd y prifysgolion i'r gymdeithas Gymreig a chyfraniad y myfyrwyr hyn at fywyd y cyfnod.
Tiwtor Rhan Un
Unigolyn: Doethur mewn Athroniaeth
Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
Traethawd ymchwil myfyriwr: Traethawd Ymchwil Doethurol › Doethur yn y Athroniaeth