Neidio i’r brif dudalen lywio Neidio i chwilio Neidio i’r prif gynnwys

Rhun Emlyn

Dr, BA (Wales), MA (Wales), PhD (Wales)

20122025

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Proffil personol

Proffil

Mae Dr Rhun Emlyn yn hanesydd yr Oesodd Canol, gyda diddordebau ymchwil arbennig mewn hanes eglwysig a gwleidyddol, yn ogystal â hanes Cymru. Mae ganddo arbenigedd yng ngyrfaoedd clerigwyr a myfyrwyr Cymreig canoloesol ac mae ar hyn o bryd yn archwilio cyfraniad clerigwyr yn Ngwrthryfel Glyndŵr.

Diddordebau ymchwil

Mae gan Rhun Emlyn ddiddordebau ymchwil mewn agweddau o hanes Cymru a hanes ehangach Ewrop yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig hanes eglwysig a gwleidyddol. Mae'r rhain yn cynnwys astudio'r ymdeimlad o hunaniaeth yng Nghymru, y cyfleoedd gyrfa oedd ar gael a'r cysylltiadau a fodolai ar draws Ewrop trwy'r Eglwys. Diddordeb arbennig sydd ganddo yw perthynas yr Eglwys a gwleidyddiaeth a sut effeithiai hyn ar sefyllfa Cymru erbyn yr Oesoedd Canol diweddar. Ymchwiliodd Rhun i hanes myfyrwyr canoloesol Cymreig gyda'r pwyslais ar ddarganfod y myfyrwyr hyn ym mhrifysgolion Lloegr a chyfandir Ewrop a gweld y gyrfaoedd a ddilynwyd ganddynt yn dilyn eu cyfnod mewn addysg. Bellach mae'n ymchwilio i gyfraniad clerigwyr i wrthryfeloedd yng Nghymru wedi'r Goncwest, yn enwedig Gwrthryfel Glyndŵr, gan gynnwys astudiaethau manwl o rai clerigwyr penodol.

 

Cyfrifoldebau

Tiwtor Rhan Dau

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Rhun Emlyn ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg
  • Gŵyl Glyndŵr

    Emlyn, R. (Cyfranogwr)

    16 Medi 2025

    Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiadGŵyl neu Arddangosfa