Llun o Simon Marshall

Simon Marshall

BA Hons (Wales), PGCE (Oxon), AgilePM & PRINCE2 Certified Practitioner

20222022

Allbwn ymchwil fesul blwyddyn

Os gwnaethoch unrhyw newidiadau yn Pure byddwch yn gallu eu gweld yn y fan yma cyn hir.

Proffil personol

Proffil

Mae Simon yn gweithio fel y Rheolwr Prosiect Gwe ar gyfer Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, gan gynllunio a chydlynu’r gwaith o ddatblygu meddalwedd a phrosesau newydd ar gyfer y prosiect. Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, gan ddod â chyfreithwyr a myfyrwyr y gyfraith i gysylltiad â chyn-filwyr a’u teuluoedd er mwyn darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cyfeirio am ddim (am ragor o fanylion ewch i’r wefan). Fel Rheolwr Prosiect y We i Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, mae Simon yn gweithio yn Ystafell B43, Adeilad Hugh Owen ar Gampws Penglais (ffôn 01970 62 2732).

Mae Simon hefyd yn aelod o dîm BioArloesedd Cymru ac mae’n creu cynnwys amlgyfrwng ar gyfer y prosiect, at ddibenion addysg a hyrwyddo. Mae BioArloesedd Cymru yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe, a’r nod yw darparu rhaglen astudio uwchraddedig o bell i bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau bwyd a biotechnoleg (am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan). Dylunydd Amlgyfrwng i Bioarloesedd Cymru Wales, mae Simon yn gweithio yn Ystafell 2.12, Adeilad Stapleton ar Gampws Gogerddan (ffôn 01970 62 2282).

Mae gan Simon gefndir ym maes addysg, a dros 20 mlynedd o brofiad o reoli gwefannau. Y mae’n rheolwr prosiectau profiadol, ac arferai arbenigo ym maes cydymffurfiaeth gwefannau.

 

Ôl bys

Ewch i ganol y pynciau ymchwil lle mae Simon Marshall ar waith. Mae’r labelau pwnc hyn yn dod o waith y person hwn. Gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio ôl bys unigryw.
  • 1 Proffiliau Tebyg