Adolygiad o Ffynonellau Amgylcheddol Twbercwlosis Buchol (Mycobacterium bovis)

Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolynErthygladolygiad gan gymheiriaid

33 Wedi eu Llwytho i Lawr (Pure)

Crynodeb

Mae twbercwlosis buchol (bovine tuberculosis; bTB) yn un o brif heriau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, a bu’n gyfrifol am ddifa 10,974 o wartheg rhwng Mehefin 2019 a Mai 2020 (DEFRA, 2020). Amcangyfrifir cost flynyddol i’r trethdalwr o £15 miliwn yng Nghymru yn unig i reoli’r clefyd sydd yn cynnwys costau milfeddygol, iawndal i’r ffermwyr, costau gweinyddol, ac ati. Yn ogystal â hyn, mae delio â’r clefyd yn cael effaith ar iechyd meddwl yr holl unigolion sydd ynghlwm ag ef. Mae’r cyswllt rhwng bywyd gwyllt a thwbercwlosis buchol yn amlwg yn bwnc llosg parhaol, ond beth am y rôl y mae’r amgylchedd yn ei chwarae o ran meithrin a lledaenu’r clefyd hwn? Mae rhai gwyddonwyr wedi ymchwilio i’r cwestiwn hwn gan lwyddo i brofi ar lefel labordy bod yr amodau sydd yn bresennol yn amgylchedd y fuwch yn rhai ffafriol i M. bovis. Serch hynny, prin yw’r ymchwil ar lefel fferm, yn enwedig mewn ardaloedd sydd yn dioddef achosion cronig o dwbercwlosis buchol. Diben yr adolygiad llenyddiaeth hwn yw amlygu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru a’r wyddoniaeth sydd yn bodoli ar hyn o bryd parthed TB buchol amgylcheddol.
Iaith wreiddiolCymraeg
Tudalennau (o-i)70-94
Nifer y tudalennau25
CyfnodolynGwerddon
Cyfrol32
StatwsCyhoeddwyd - 31 Maw 2021

Dyfynnu hyn