Apocryffa Siôn Cent

Mark Bryant-Quinn

Allbwn ymchwil: Llyfr/AdroddiadLlyfr

Crynodeb

Hon yw’r gyfrol gyntaf yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr i ymdrin â’r cerddi a briodolir i Siôn Cent, bardd crefyddol pwysicaf Cymru’r Oesoedd Canol Diweddar. Ceir ar ei enw doreth o gerddi y mae’n rhaid eu dadansoddi’n ofalus er mwyn cael hyd i’w ganu dilys; yma, golygir tair ar ddeg o gerddi neu ddrylliau y gellir eu galw yn ‘apocryffa’, sef cerddi a briodolir i Siôn Cent yn unig ond nad oes modd eu derbyn i ganon ei waith. Ceir yn yr apocryffa gerddi o wahanol gyfnodau ar amryw destunau crefyddol: anrhydeddu delw o Grist yn Nhrefeglwys; myfyrio ar bwysigrwydd y Sul; mydryddu Gweddi’r Arglwydd; ystyried tynged dyn a dyfodiad anochel y Farn. Nid Siôn Cent ei hun a welir yng ngherddi’r apocryffa, ond trwyddynt cawn gipolwg ar barhad y traddodiad o ganu crefyddol yr oedd ef yn ffigur allweddol ynddo.
Iaith wreiddiolCymraeg
CyhoeddwrCanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd
ISBN (Argraffiad)0947531424
StatwsCyhoeddwyd - 2004

Dyfynnu hyn