Crynodeb
Mae’r erthygl hon yn seiliedig ar astudiaeth ymchwil gychwynnol â’r nod o ddiffinio ac adnabod y gwallau iaith llafar mwyaf cyffredin a wneir gan ymgeiswyr Arholiadau Defnyddio’r Gymraeg CBAC ar Lefelau Canolradd ac Uwch yn y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol, yn ystod y profion llafar sy’n gysylltiedig â’r arholiadau hyn. Eir ati i archwilio sut y gellir dosbarthu’r gwallau iaith a nodir, i gael gweld a yw’n bosib defnyddio’r data canlynol i gael gweld a oes modd eu hystyried yn newidynnau ieithyddol o’r iawn, ac felly, i archwilio i’w perthynas â ffactorau allieithyddol megis cyd-destun, rhyw, oedran, magwraeth a chefndir cymdeithasol, a hynny fel rhan o astudiaeth gynhwysfawr a fydd yn seiliedig ar sampl llawer mwy o hysbyswyr.
Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | A pilot study of the speech errors of candidates of the WJEC Use of Welsh examinations |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Tudalennau (o-i) | 24-52 |
Nifer y tudalennau | 28 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Cyfrol | 1 |
Rhif cyhoeddi | 12 |
Statws | Cyhoeddwyd - Rhag 2013 |