Crynodeb
Mae’r astudiaeth yma yn cymharu cwmnïau bychain a chanolog bwyd a diod yng Nghymru a Llydaw. Gyda 99.8% o gwmnïau Ewrop yn rhai bychain a chanolog (Comisiwn Ewropeaidd 2013), mae’r busnesau yma yn hollbwysig i economïau ymylol, fel Cymru neu Lydaw. Gyda gwreiddiau traddodiadol yn perthyn i’r tir, mae’r diwydiant bwyd yng Nghymru yn gweld adfywiad presennol gyda nifer cynyddol o gwmnïau bychain a chanolog yn tyfu. Fel ardal ymylol Geltaidd yn Ffrainc, mae Llydaw yn rhannu diwylliant, tirwedd ac amgylchedd busnes tebyg i Gymru, gyda phwyslais hefyd ar y diwydiant bwyd a diod.
Trwy ystyried damcaniaethau Entrepreneuriaeth Ryngwladol, cymhelliant, rhwydweithio, adnoddau a’r gyrwyr a rhwystrau sydd wedi trafod yn y llyfryddiaeth gysylltiedig, nod yr astudiaeth yma yw meithrin dealltwriaeth fanwl o'r ffactorau arwyddocaol sy'n dylanwadu ac yn llesteirio rhyngwladoli o gwmnïau bychain a chanolig yn y diwydiant bwyd a diod. Datblygwyd holiadur ar-lein fel y prif ddull o gasglu data ar gyfer y prosiect hwn, a ddosberthir i gynhyrchwyr bwyd a diod yn y ddau ranbarth. Yn dilyn hynny, bydd yr ail gam o gasglu data yn cynnwys cyfweliadau lled-strwythuredig gyda sampl ar hap o'r cwmnïau sy'n ymateb i'r holiadur, yn ogystal â chynrychiolwyr o sefydliadau sy'n cynnig cymorth mewn rhyngwladoli i fusnesau bychain a chanolog.
Y canlyniad a fwriedir o'r astudiaeth yma yw helpu hwyluso cwmnïau bychain a chanolog yn ogystal â llywodraethau i gynllunio strategaethau ar gyfer twf rhyngwladol mewn diwydiant sy'n bwysig iawn i'r ddau ranbarth. Mae nifer o enghreifftiau o gwmnïau yn y ddau ranbarth yn rhyngwladoli’n llwyddiannus, felly mae'n angenrheidiol i ennill dealltwriaeth o sut mae hyn wedi digwydd a chymharu’r canfyddiadau hyn gyda'r cwmnïau sydd ddim yn gwerthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd tramor ar hyn o bryd.

Cyfieithiad o deitl y cyfraniad | A comparative study of the significant factors leading to internationalisation in food and drink SMEs in Wales and Brittany |
---|---|
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
Statws | Cyhoeddwyd - 25 Meh 2015 |
Digwyddiad | Cynhadledd Ymchwil amlddisgyblaeth cyfrwng Cymraeg - Gregynog, Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon Hyd: 01 Meh 2013 → … |
Cynhadledd
Cynhadledd | Cynhadledd Ymchwil amlddisgyblaeth cyfrwng Cymraeg |
---|---|
Gwlad/Tiriogaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon |
Dinas | Gregynog |
Cyfnod | 01 Meh 2013 → … |