Gweithgareddau fesul blwyddyn
Crynodeb
Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudiaeth pobl ifanc o’r broydd Cymraeg o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil gwreiddiol yn seiliedig ar waith Jones (2010) a’i ganfyddiad o ddadansoddi ystadegau cyfrifiadau bod pobl a anwyd tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo allan o Gymru nag yw pobl ifanc a anwyd yma, er yr ymddengys eu bod yn integreiddio’n llawn i’r cymdeithasau hynny. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar sampl o pobl ifanc 15-18 oed a 19-25 oed, sydd naill ai wedi eu geni tu allan i’r broydd neu yn hanu o deuluoedd ymfudol. Ymddengys fod y teulu a’r teulu estynedig, diwylliant a chenedligrwydd, ystyriaethau ieithyddol a rhwydweithiau cymdeithasol yn ffactorau sydd yn cyfrannu at ddewisiadau pobl ifanc i aros neu peidio. Canolbwyntir ar ddwy ardal sef Tregaron a Blaenau Ffestiniog ac yn benodol, ystyrir sut mae nodweddion yr ardaloedd eu hunain yn dylanwadu ar ddewisiadau’r pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Iaith wreiddiol | Cymraeg |
---|---|
Rhif yr erthygl | 13 |
Tudalennau (o-i) | 43-63 |
Nifer y tudalennau | 21 |
Cyfnodolyn | Gwerddon |
Cyfrol | N/A |
Rhif cyhoeddi | 28 |
Statws | Cyhoeddwyd - 31 Maw 2019 |
Allweddeiriau
- Y Fro Gymraeg
- Allfudiaeth
- Hunaniaeth
- Perthyn
- Cynllunio Ieithyddol
-
Rural Vision Podcast
Cunnington Wynn, L. (Siaradwr)
23 Medi 2021Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Cyflwyniad llafar
-
Papur Seminar Canolfan Ymchwil Cymru
Cunnington Wynn, L. (Siaradwr)
18 Chwef 2020Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Fforwm Dyfodol Dwyieithog Cyngor Ceredigion
Cunnington Wynn, L. (Siaradwr)
28 Ion 2020Gweithgaredd: Sgwrs neu gyflwyniad › Sgwrs wadd
-
Gwyl Ein Llais yn y Byd
Cunnington Wynn, L. (Cyfranogwr)
28 Tach 2019Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn digwyddiad neu drefnu digwyddiad › Cynhadledd